Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. [CVF!ÎICS XXI. MAI, 1882. [Rhif. 237,, DIWYGIAD CREFYDDOL. Gan y Parch. Thomas Rees, Merthyr. '•Heuwchi chwi meirn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd, hraenarwch i chwr fraenar ; eanys y mne yn amser i geisio y* Arglwydd; hyd oni ddelo a gwlawio cyfiawnder arnoch."—Hosea, x, 12. ,. w. AE y testyn wedi ei lefaru yn |(^I iaith amaethyddiaeth. Sonir ynddo am orchwylion a gweithrediadau cyffredin ffarmo, ynghy d a'r hyn sydd yn dwyn cysylltiad agos â hyny mewn natur, ar yr hyn y mae eu llwyddiant yn ymddibynu. Cenedl o dyddynwyr yn llafurio y ddaear oedd yr Iuddewon, i'r rhai y" rhoddwyd y ûadguddiad dwyfol. Gan hyny, mae yr ysgrythyrau yn fynych yn gosod allan grefydd a'i dyledswyddau—ym- ddygiadau moesol ac ysbrydol, a'u canlyniadau—mewn geiriau ac ym- adroddion yn cyfeirio at eu galwedig- aeth neillduol hwy ; wedi eu benthyca oddiwrth eu gwaith arferol hwy, â'r hwn yr oeddynt yn eithaf cyfarwydd. Vr oedd hyn yn angenrheidiol iawn, ac yn fanteisiol arbenig iddynt ddealí yn well ofynion duwioldeb a'i buddiol- deb. A chan fod y rhai hyn yr un yn hollol o ran sylwedd yn ein plith ni yn bresenol, fel yn mhob gwlad arall braidd, ag yn y Dwyrain gynt, gallwn ganfod y meddwl yn hawdd ar un- waith, a gwneyd defnydd o honynt i gael allan beth a gais yr Arglwydd genym, yn nghyd a llwyddiant ei gyf- lawnu yn nghymorth ei ras. Oddiar hyn, y mae hyn oll o wasanaeth mawr iawn a gwerthfawr i ni. Ceir eng- hraifft darawiadol o hyn yn yr adnod hon, ac yn y cyd adnodau blaencrol a dylynol yn ìlawn. Desgrifir arddu y tir, a'i barotoi i hau yr had yn gystal a gwneyd hyny ; dysgwyl y gwlaw, a'i gael; medi y ffrwyth, casglu y cyn- hauaf; a phan wneir hyn oll yn iawn, y mae Duw y cwbl yn cael ei geisio, ei gydnabod, a'i fendithio yn yr oll. Mae cysylltiad agos ac anwahanol rhwng y naill beth a'r llall. Y maent yn ymddi- bynu areu gilydd,aphobpeth yn cyfateb i'w gilydd. Nid yw gosodiad Duw yn diswyddo, neu ar ffordd, gwaith dyn. Nid yw yn rhoddi y lle lleiaf i'w esgeuluso, eithr yn ei gefnogi; ac yn lle ei wneyd yn hunan-ddigonol a hunan-hyderus, dysg ef i edrych at Dduw am ei fendith i lwyddo ei lafur. Dyma fel y mae y Goruchaf trwy y prophwyd yn cyfarch Israel—y deg llwyth yn fwyaf uniongyrchol a phen- dant—gyda golwg ar eu dyledswydd rwymedig ar y pryd, yn ngwyneb yr amgylchiadau neillduoi a sobr yr oedd- ynt ynddynt; yr hyn oedd yn rhaid iddynt ei wneuthur yn ddioed mewn trefh i osgoi y drwg a'u bygythiai, ac iddi fod yn dda arnynt. Y mae yn eithaf amlwg a diamheuol mai galwad arnynt i edifeirwch a diwygiad sydd yma, fel unig foddion neu delerau eu harbediad rhag y barnau ofnadwy fygythid yn eu herbyn, ac oeddynt ar eu goddiweddyd a'u hanrheitho am eu pechodau anfad. Gwellhau eu ffyrdd, fel y gosodir allan yma, oedd yr unig ffordd iddynt gael ffafr Duw. Nid oedd eto yn rhy ddiweddar i ragflaenu y trychineb bygythiedig oedd yn agos- hau, os dychwelent yn edifeiriol fel hyn at yr Arglwydd. Mae y geiriau yn gymhwysiadol iawn atom ninau, ac yn briodol neill- duol i'r nifer amlaf o eglwysi a Christ- ionogion ein gwlad ar y tymor presenol. Efallai nad ces yr un drwg neu berygl allanol, tymorol, yn ein bygwth ni yn uniongyrchol—dim un farn felly yn cael ei bygwtb yn ein herbyn yn ben- dant i'n anrheithio. Beth, er hyny, os ydym yn ngafael barn waeth, a chan- 13