Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. C*FHKK XXI.] MaWBTH, 188S "Khif. 235. GWNEUTHUE DÀIONI. "Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn biyd y medwn, oni ddiffygiwn."—Galatiaid vi. 9. iJfj^E fyn rhítepa y geinau "gwneu- Wcf, thur daíWl " yn adnod y testyn rS^ff yn gyfystyr a hau i'r Ysbryd yn yr adnod o flaen y testyn. Y mae yr apostol wedi bod yn galw sylw y Galat- iaid at y gwirionedd pwysig y caiff pob dyn fedi y grwn y mae yn hau. " Yr hwn sydd yn hau i'r cnawd ;" yr hwn sydd yn treulio ei fywyd i foddhau ei chwantau cnawdol ac anianol, ffrwyth y cnawd gaiff ef fedi byth. A dyna yw ffrwyth y cnawd, Uygredigaeth. O'r ochr arall, " yr hwn sydd yn hau i'r Ysbryd ;" yr hwn sydd yn treulio ei oes i farweiddio ei lygredigaethau, ac mewn ymdrech am fyw yn dduwiol, fe gaift yntau fedi ffrwyth ei laíur; o'r Ysbryd fe fed fywyd tragywyddol. " Eithr yn gwneuthur daioni na ddiog- wn" ynte. Gan fod hau i'r Ysbryd yn sicrhau medi bywyd tragygwyddol, peidiwn ninau a bod yn llac i daflu yr hâd ; peidiwn hau y grwn yn denau. " Na ddiogwn," yn hytrach na ddigal- onwn ; peidiwn llwfrhau os bydd yr hâd yn hir cyn dwyn ffrwyth. Oblegid dyna ystyr y gair a gyfieithir yn yr adnodyma, diogi. Nid annhueddrwydd at waith, ond y digalondid sydd yn dueddol i feddianu dyn wrth fethu gwel'd y gwaith yn Uwyddo; y llwfr- dra ysbryd sydd yn gwanhau ei fraich pan y mae yr hyn a fydd yn wneyd, yn ei olwg ef, yn methu ateb y pwrpas. Ac fe gyfieithir yr un gair yn yr Äpistol at yr Hebreaid, " fel nad ymoll- yngoch yn eich eneidiau." A chymeryd y geiriau yn yr ystyr yna, y maent yn öurfio anogaeth i'r Galatiaid i barhau mewn ymdrech am gadw gorchymyn- ion Duw, a pheidio digaloni, er gorfod teimlo yn fynych eu bod yn methu; ar ìddynt o hyd geisio llunio eu bywyd naewn cysondeb a'r esiampl berffaith oeddynt wedi gael gan y Rhagflaenor bendigedig, ac yn ngwyneb eu bod yn methu dod i fynu a'r safon ar iddynt beidio llwfrhau, fod y diwrnod yn dod, ond iddynt er gwàethaf rhwystrau a methiantau gadw eu gwyneb yn y blaen, y cai eu llafur ei goroni a llwydd- iant perffaith, ac y caent hwythau fedi bywyd tragywyddol. Chwi welwch fod yr ystyr yna, nid yn unig yn rhoddi synwyr da, ond hefyd yn taro ar ben un o'r prif anhawsderau i fyw yn dduwiol. Y gamp mewn bywyd crefyddol yw, nid medru gorch- fygu drygioni am un tro, ond gwrth- sefyll temtasiynau er eu bod yn dilyn eu gilydd yn ddiddiwedd, ac er syrthio ambell dro dan draed y brofedigaeth ; peidio digaloni yn ngwyneb y codwm, ond anturio yn nerth Duw i'r ymdrech dracheín. 'Does dim yn profi egwyddor gymaint a chysondeb gwrthwynebiad- au. Fe fedr milwr pur ganolig ymladd un frwydr gyda chryn ddewrder, ac ymladd Uawer brwydr os bydd yn concro bob cynyg; ond yr hyn sydd yn profi'r milwr yw fod y rhyfelgyrch yn para yn hir ; ymladd yn galed am ddiwrnod cyfan heb enill un fodfedd o dir ; gorwedd i lawr y noswaith hono yn ei arfau ár y ddaear oer i geisio gorphwys, heb ddim ond tent o ganvas rhyngddo a'r gwynt, ac heb wybod pwy eiliad y byddai raid iddo am- ddiffyn ei hunan rhag rhuthriadau'r gelyn. Gweled boreu tranoeth yr un gelynion yn ymosod arno ag y bu ef yn ymdrechu yn eu herbyn y dydd o'r blaen, ac yn enwedig ofni ei fod yn ymladd losing battle; dyna'r pethau sydd yn profi'r milwr hyd adref. Y mae yr holl rwystrau yna yn dod i gwrdd a'r dyn sydd yn ceisio arwain bywyd crefyddol. Yn un peth y mae