Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. CîFRES XXI.] CHWEFROE, 1882. [Ehif. 234.7 "ANALLU Y DDEDDF." GAN Y PaRCH. JoHN LEWIS, CaERFYRDDIN. ÌWf N o hoff eiriau'r Apostol Paul (eAJ) yn ei Epistol at y Rhufeiniaid GD yw y gair Deddf. Yn yr ail adnod o'r wythfed benod, sonir am ddwy ddeddf—" deddf Ysbryd y byw- yd yn Nghrist Iesu, a deddf pechod a marwoìaeth." Wrth " ddeddf pechod a marwolaeth," y golyga rhai esbon- wyr ddeddf Duw, y ddeddf foesol, yr hon sydd yn achlysur i bechod a marw- olaeth. Defnyddir yr un ymadrodd yn niwedd y seithfed benod, ac y mae yno, yn ddiamheuol, yn golygu tuedd- fryd lygredig y galon ; ac nid ydym yn gweled un rheswm dros roi ystyr wa- hanol i'r ymadrodd yn yr adnod dan sylw. Wrth " ddeddf Ysbryd y byw- yd," gan byny, y mae i ni ddeall tu- eddfryd yr anian santaidd, yr hon, yn rhinwedd ei gallu gorchfygol, sydd yn dwyn oddiamgylch y rhyddhad y sonir am dano. Ac wrth ddeddf adnod y 3edd, y mae i ni ddeall y brií ddeddf —dedif natur Duw; a'r hyn y mae yn wan iddo, yw rhyddhau oddiwrth " ddeddf pechod a marwolaeth," yn ol geiriad yr adnod flaenorol; neu " gon- demnio pechod yn y cnawd," yn ol geiriad yr adnod hon. Ni pherthyn i'r ddeddf, cofier, un- rhyw anallu i gyflawnu dybenion mawr ei rhoddiad. Un o gyfeiliornadau mwyaf difrifol yr Iuddewon oedd codi y ddeddf allan ö'i lle priodol, a rhoddi iddi safle yn eu goruchwyliaeth, a dys- gwyl oddiwrthi fendithion na feddyl- iodd Duw erioed iddi gyfranu. I eg- luro natur y camddefnydd oeddynt hwy wedi wneuthur o'r ddeddf, yw amcan yr Apostol wrth ddwyn i mewn Sarah ac Agar yn y bedwaredd benod o'r Epistol at y Galatiaid. Yno y mae Sarah, gwraig briodol Abraham, a'i wasanaethferch Agar, yn caeí edrych arnynt fel yn cynrychioli dau gyfamod, a'u plant yn cynrychioli deil- iaid y cyfamodau hyny. Y mae Sarah, fel mam, yn cyfateb i'r " Jerusalem hono uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll." Hyny yw, y wir Eglwys yn mhob oes ; pwy bynag sydd yn per- thyn yn wirioneddol iddi a aned oddi- uchod—a aned o Dduw. Ac fel y gallai Isaac fod yn gysgod cymhwys o'r cyfryw, y mae ei enedigaeth yn fwriadol yn cael ei gohirio. Y cyf- amod a gynrychiolìr gan Agar yw cyf- amod Sinai; y mae hi " yn cyfateb i'r Jerusalem sydd yn awr, ac y mae yn gaeth, hi a'i phlant." Hyny yw, y mae hi a'i phlant yn cynrychioli ael- odau deddfol yr eglwys yn mhob oes ; a thynged y cyfryw, fel yr eiddo Agar a'i mhab, fydd cael eu bwrw allan o'r ty. Gwasanaethferch i Sarah, y wraig rydd, oedd Agar wedi ei bwriadu gan natur ; i'r cylch hwnw yr oedd hi wedi ei chymhwyso gan Ragluniaeth ; a'r camgymeriad oedd ei chodi allan o hono i gylch uwch a mwy anrhyd- eddus, mewn llwybr anghyfreithlawn. Felly, gwasanaethferch i'r cyfamod a wnaeth Duw ag Abraham 430 o flyn- yddoedd cyn hyny y bwriadwyd y ddeddf; ond yr oedd y Galatiaid wrth ddysgwyl cael bywyd trwyddi, a'u cyfiawnhau trwy weithredoedd, yn ei chodi allan o'i chylch priodol, ac yr oeddynt yn euog o gyfiawnu yr un camgymeriad, ond mewn ystyr an- nhraethol uwch, ag a gyflawnwyd yn nhy Abraham mewn cysylltiad ag Agar. Dywed yr Apostol yn yr un Epistol mai pechod wnaeth ddygiad y ddeddí i mewn yn angenrheidiol: " Oblegid troseddau," meddai, "y rhoddwyd hi [y ddeddí] yn ychwaneg;" h.y. yn