Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Csfues XX.] RHAGFYR, 1881. [Rhif. 231.- OYNYDD CREFYDDOL. 'A byn yma befy.i, gan roddi cwbl-ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth ; ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gytnedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; ac at dduwoldeb, garedigrwydd b'awdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. Canys os yw y rethau hyn genych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur, na diffrwyth y'ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist."—2 Pedk. i. 5— 8. Gan y Parch. T. C. Phillips, Mountain Ash. 'RTH gynydd crefyddol y golygwn gynydd yn ngras- usau crefydd. Y mae cref- ydd yn tybio grasusau ; nis gellir cael y naill heb y llall. Anmhosibl cael y meddylddrych o fater, ond yn nglyn a'r meddylddrych o ffurf— hyd, lled, Uiw, &c, felly hefyd yn g'lymedig wrth y syniad o grefydd, fe geir y syniad o rasusau. Yn ol ein golygiad am gref- ydd y bydd ein golygiad am ei grasusau. Dyna ydyw " grasusau," y cyfaddasiad sydd mewn crefydd i gymeryd agwedd- au a ffurfiau priodol mewn gwahanol gysylltiadau, a than amrywiol amgylch- iadau. Nid allan o le ydyw galw y " grasusau " yn aelodau y dyn newydd —yn gyneddfau, neu briodoleddau crefydd. Mae grasusau i grefydd yr hyn ydyw yr aelodau i'r corph, neu ei alluoedd i'r meddwl. Priodolir i'r meddwl ddeall, rheswm, cof, teimlad, ewyllys, &c Nid ydys yn golygu wrth hyny fod y meddwl yn rhanedig. Un cyfan, anrhanedig ydyw'r meddwl. Wrth y "galluodd meddyliol" y golygir y cyfaddasiad sy yn y meddwl i weithredu mewn gwahanol foddau ar wahanol wrthddrychau. Dyna ydyw y 'deall," y cyfaddasiad sydd yn y meddwl i ganfod a gwybod. Nid yw y rheswm, ond y cyfaddasrwydd sydd yn y meddwl i dynu casgliadau ; y cof, ond y cyfaddasrwydd sydd yn y meddwl i drysori ffeithiau, dygwydd- ìadau, dates, &c. Dyna ynte ydyw y galluoedd meddyliol:" gwahanol agweddau ar y meddwl, o dan amryw- iol amgylchiadau. Yr un modd y gellir dywedyd gyda golwg ar rasusau crefydd, nid ydynt ond y cyfaddasiad sydd mewn gwir grefydd i gymeryd ffurfiau ac agweddau priodol o dan amrywiol amgylchiadau. Oyntafanedig yr holl rasusau ydyw " ffydd." Gyda ffydd y mae Pedr yn arferol o ddechreu pan yn enwi gras- usau y saint; a dechreuai Paul lle mae Pedr yn diweddu, gyda chariad. Yn ol ei arfer dechreuai Pedr yn y geiriau dan sylw gyda ffydd. Ffydd ydyw gwreiddyn y bywyd ysbrydol—y " dduwiol anian," ac felly yn wreiddyn holl rasusau crefydd. "A hynyma hefyd, gan roddi cwblddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, &c Ffydd sydd yn jfront—chwanegwch at eich ffydd rinwedd, ac at rinwedd wybod- aeth, &c Y mae yn gosod ffydd yn wreiddyn yr holl rasusau. Fel ag mae y pren, y cangenau, y dail, y blodau, a'r ffrwyth yn ymgodi ac yn tyfu o'r gwreiddyn, felly hefyd y mae yr holl rasusau yn tarddu a thyfu o ffydd. Mae'r grasusau i gyd yn springio i fyny o ffydd. Hwyrach fod anhaws- der ymddangosiadol yn y fan yma, yn ein gwaith yn galw ffydd yn wreiddyn y grasusau, a hithau yn cael ei rhestru weithiau yn mhlith y grasusau, ac fel un o honynt. Pa fodd y galí ffydd fod yn wreiddyn a changen? Yn wreiddyn i'r holl rasusau, ac ar yr un pryd yn un o'rj grasusau ì I gyfrif o 54