Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cffres XX.] TACHWEDD, 1881. [Kbif. ^30. Dì 1 "A CHANDDYNT RITH DUWIOLDEB," &c. 2 Tim. iii. 5. Gan y Parch. T. Rees, Merthyr. AE'n IIMA Afi'n ymddangos fod nid yn JTOL unig y byd yr ydym yn byw ■^BS^ ynddo yn fyd cymysglyd iawn, y da a'r drwg blith draphlith o'i fewn, ond hefyd fod eglwys Dduw yn ei hystâd anmherffaith bresenol yn y byd hwn o nodweddiad cyffelyb yn hyn o beth. Yn allanol a gweledig, y mae hithau, agos, os nad yn gwbl, mor gymysglyd. Y mae y ffaith yn eithaf eglur a diameuol; ni raid trafferthu i'w phrofi, pa faint bynag o ddirgel- wch y sydd ar ryw gyfrifon i ni yn nglyn â hi. Yr ydym yn cael mai dyma ei hanes o'r dechreuad,—y fath y gwyddom, y gwelwn, ydyw yr awrhon, a'r cyfryw y mae genym dir digonol i gasglu a chredu a fydd i fesur mwy neu lai tra. ar y ddaear hon. Os yw hyn yn eyffroi ein syndod i raddau, o herwydd ei fod yn beth rhyfedd ac anamgyffredadwy yn ein golwg ni, ni raid iddo, ni ddylai, nid yw i fod yn beth i'w farnu yn anghredadwy genym niewn un modd, oblegid felly yr ar- ddangoswyd hi yn eglur a helaeth yn y rhagfynegiadau o berthynas iddi; yn enwedig gan yr Athraw Mawr, y Dysg- awdwr ddaeth oddiwrth Dduw, Pen a Brenin yr eglwys, yn gystal a'i sylfaen- yddhi. Yn ei athrawiaeth Ef, cyffel- ybai mewn damegion diail, llawn addysg, deyrnas nefoedd ar un tro i rwyd a fwrid i'r môr, yn dal o bob rhy w Jath. Dro arall, rhoddai ar ddeall yr ùeuid efrau yn mhlith y gwenith, ac y ceid eu gweled yn cyd-dyfu ar yr un maes, ac yn dwyn tebygolrwydd nod- edig iddo, fel y gwarafunwyd i'r gweis- ìon a gynygient fyned i'w codi i wneyd üyny, rhag iddynt trwy hyny ddi- wreiddio y gwenith hefyd. Y mae yr us ar gwenith yn nghymysg ar yr un llawr dyrnu yn awr. Mae y morwyn- ion ffol yn nghymdeithas y rhai call yn cael hawl i, ac yn cyfranogi o, freintiau allanol crefydd fel eu gilydd ; a hyny, dybygid, heb nemawr neu ddim gwahaniaeth canfyddadwy rhyngddynt, am hir amser, hyd y diwedd yn mron. Dysgodd Ef y gallai y byddai canghen- au ynddo ef heb ddwyn ffrwyth, &c. Ac fe gymerodd pethau le yn union fel y rhagddangosodd y Gwaredwr, a hyny yn fuan iawn hefyd ; fe wiriwyd. ei eiriau yn fanwl yn ddioedi. Profodd ei arddangosiadau ffyddlawn o'r pethau hyn, cysylltiedig a'i deyrnas, yn llawn gwirionedd mewn amser byr. Yr oedd y dygwyddiadau ddylynodd yn eu hol yn gyflawniad llythyrenol' o honynt. Yr oedd hyd yn nod yr eglwysi a blanwyd gan apostolion yr Oen, dynion ysbrydoledig, yn mhell iawn o fod yn berfíaith, yr hyn ddylas- ent fod. Y mae ar lawr yn y Testa- ment Newydd yn benodol, fod rhywrai yn aelodau o honynt, yn proffesu yr adwaenent Dduw, heb ddim mwy na gwell na hyny ganddynt, o herwydd ar weithredoedd gwadent ef, yn mhlith ereill a gredent a'r galon ì gyfiawnder, ac a gytfesent a'r genau i iachawdwr- iaeth, ac a ymddygent yn addas i efengyl Crist, yn mhob santaidd ymar- weddiad a duwioldeb. Yr oedd rhyw- rai yn rhoddi arwyddion anghamsyniol mai gelynion croes Crist oeddynt, yn perthyn i'r un frawdoliaeth a gwir deulu y ffydd. Yr oedd pob eglwys y mae genym son am dani yn cynwys cymer- iadau ainheus, os nad dynion drwg an- hywaeth o'i mewn. Dyma yr olwg roddir i ni ar bethau yn yr holl epis- tolau. Yn mhellach, mae yr ysgrifenydd 51