Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. CíFRES XX.] HYDREF, 1881. [Rhif. 229. 0 0 Y GLOCH YN CAEL EI SEINIO I'N RHYBYDDIO NI 0 BERYGL. (Dat. ii. 1—5). Gan y Parch. W. Powell, Llanilltvtd. R foreu Sabboth swynol, pan yn alltud yn Ynys Patmos, fe gafodd Ioan, "y dysgybl an- wyl," yr anrhydedd o dderbyn dat- guddiad olaf Crist i'w eglwys ae i'r byd. Yn mha le yr oedd. Ioan pan glywodd " o'r tu ol iddo lef fawr fel Uais udgoin," ac y rhoddwyd iddo y datguddiadau a gynwysa y llyfruchqd; pa un ai yn gweddio ac yn addoli Duw yn yr ogof hono sydd yn cael ei golchi weithiau gan lanw y môr, Ue y dy wed traddodiad ei fod ef; neu, ynte, yn rhodio wrtho ei hun mewn dwfn fyfyr- dod yn swn murmur y tònau; nis gwyddom. Ond gwyddom mai Sab- both i'w gofio byth fydd hwnw gan Ioan. Ni wna tragywyddoldeb ei hun ddileu ynys fechan ramantus Patmos, a'r gweledigaethau gafodd ef yno y Sabboth hwnw, o'i feddwl. Rhaid fod y Sabboth Cristionogol i'r dysgybl meddylgar a chariadlawn hwn yn llawn o swyn, ac o'r adgofion mwyaf cysegredig—dydd coffadwriaeth am adgyfodiad ei Waredwr—ond, oddiar y boreu pan y bu ef gyda Pedr " wrth ddrws y bedd" yn gwneyd prawf ar gywirdeb tystiolaeth y gwragedd am gyfodi o Grist, y Sabboth hwnw yn Patmos ydoedd y rhyfeddaf y bu ef yu dyst ac yn brofiadol o hono ar y ddaear. Md golwg ar Grist mewn tristwch, fel hwnw, oedd yn llanw ei feddwl pan y pwysai Ioan ei ben ar ei fynwes yn yr Oruwch-ystafell; neu pan yn yr Ardd yn ymyl Oedron ; ac md golwg arno ychwaith newydd ddy- «>d allan yn fuddugoliaethus drwy Dyrth marwolaeth, gafodd Ioan y tro nwn yn Patmos; ond golwg arno yn ei sefyllfa dderchafedig ar " ddeheulaw Duw." A'r fath ydoedd y gogoniant a berthynai iddo, fel y methodd ei hen ddysgybl a'i adwaen ef. "A phan welais ef," rneddai, "mi a syrthiais wrth ei draed fel marw." "Nac ofna," meddai yntau wrtho; " Nac ofna, Myfi yw." Paid a dychrynu Ioan, "Myfí yw." "Myfi" dawelodd yr ystorm i chwi ar fôr Galilea ; dy hen Athraw, yr hwn y darfu i ti bwyso dy ben fwy nag unwaith ar ei fynwes." Nid cynt y disgynodd y frawddeg gynefin hon ar glustiau Ioan nag y deallodd mai'r lesu ydoedd. Yr oedd cyfaddasder neillduol yn y geiriau, " Nac ofna," i sefyllfa Ioan y pryd hwn. Meddylier am un ag oedd wedi treuiio rhan fawr o'i oes mewn dinas fawr, ac yn fugail ar eglwys lewyrchus yno—meddylier am dano yn ei hen ddyddiau yn alltud mewn ynys unig, anial, heb gymdeithas, na dim i dori ar y dystawrwydd yno ond murmur y tònau a lleisiau cwyn- fanus adar gíàn y môr. Efe yn unig o'r apostolion oedd y pryd hwn yn fyw, ac felly efe yn unig gafodd fyw yn ddigon hir i weled cymylau ac ystorm- ydd bygythiol yn ymgasglu yn ffurfafen wladyddol Rhufain, yn nheyrnasiad Domitian, yn erbyn Crist a Christion- ogaeth. Yn ei unigrwydd a'i alltud- iaeth, 0 eiriau gwerthfawr, " Nac ofna." " Os ydyw erledigaethau y byd Rhufeinig," meddai, " fel tònau'r môr yna sydd yn tori ar draethau Patmos, yn lluchio drosot a thros fy eglwys, nac ofna." " Byw ydwyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd." Yn y dat- guddiadau gafodd Ioan yn Patmos, y peth cyntaf gyfiwynir i'n sylw ydyw 46