Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. Cyfres XX.] EBRILL, 1831. [Bhif. 223. 00. CREFYDD MEWN ESIAMPL. Gan y Parch. Richard Morgan, Aberdar. "Byddwch ddilynwyr i mi, megys yr wyf finau i Grist."—1 Cor. xi. 1. MAE yr adnod hon yn perthyn i ymresymiad y benod flaen- orol. Y mae'r Apostol yn anog y Cristionogion yn Corinth i gydym- ddwyn a'u gilydd, gan osod ei hun yn esiampl iddynt o'r hyn a gymhellai arnynt. Y mae yn eu hanog i barchu teimladau eu gilydd, ac i geisio lleshad eu gilydd, "Pob un i edrych ar yr eiddo aralí ac nid ar yr eiddo ei hun yn unig." Y mae pob cymdeithas yn seiliedig ar gariad ac hunanymwadiad. Hanfod Cristionogaeth yw hunanym- wadiad ; ac y mae pob eglwys a phob Cristion unigol i fod yn gorfíoriad o'r egwyddor hon. Yr oedd Paul felly; ac fel y cyfryw y mae yn cyniell hyn ar ereill, fel y byddont dan ddylanwad y gras hwn yn ddiachos tramgwydd i'w gilydd, ac yn ymgais at adeilad- aeth eu gilydd. " Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iuddewon ac i'r Cen- edloedd hefyd, ac i eglwys Dduw; megys yr wyf finau yn rhyngu bodd i bawb yn mhob peth, heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig." " Bydd- wch ddilynwyr i mi yn y gras hwn, niegys yr wyf finau i Grist." Yr oedd Paul yn esiampl nodedig o hunanym- wadiad, ond nid oedd yr eiddo ef ond adlewyrchiad gwan o hunan-ymwadiad Crist. " Yr hwn ag efe yn gyfoethog a ddaeth er ein mwyn ni yn dlawd." Yr oedd Paul yn seren ddysglaer, ond Crist yw yr Haul. Y mae Paul am i ui edrych arno ef, nid fel esiampl ber- ffaith, ond fel finger-post yn cyfeirio at berffeithrwydd. Un o neillduolion arbenig y grefydd Grristionogol, yw ei bod yn grefydd hollol ynẅferol—i'w chael nid mewn cyfres o erthyglau oer a difywyd, ond mewn hanes, wedi ei gweithio allan mewn bywyd ac ymarweddiad ger bron y byd ; ac fel y cyfryw y mae yn meddu ar gyfaddasder neillduol i gym- eryd meddiant ar galon dyn. I. Y mae crefydd mewu esiampl yn hawdd ei deall.—Yn yr ymarferol yr ydym ni yn deall pob peth oreu. ' Ychydig iawn o bethau yr ydym ni yn eu deall yn eu hegwyddorion. Y mae'r botanist yn deall y planhigion yn yr hedyn, ond rhaid i'r bobl gyffredin aros i'r hedyn ymddangos mewn corsen, dail, blodau, a ffrwyth cyn y gallant hwy ei ddeall. Gorchwyl anhawdd fyddai i ysgolfeistr ddysgu daearydd- iaeth y wlad i nifer o blant trwy dra- ddodi anerchiadau ar berthynas g<va- hanol leoedd a'u gilydd, ond wrth osod y wlad mewn map o fiäen eu llygaid, y mae yn Hwyddo i wneyd hyny mewn byr amser. Y ffordd fwyaf effeithiol i ddysgu plant yw trwy ddarluniau. Y mae pob llyfr fwriedir i blant ,yn llawn o honynt. Mewn ystyr foesol ac ysbrydol plant ỳdym oll. Md yw ein syniadan am egwyddorion teyrnas nefoedd ar y goreu yn ddim amgen na syniadau plant. As y mae Duw wrth ein haddysgu yn y pethau hyn, wedi cyfaddasu ei wersi ar gyfer ein sefyllfa blentynaMd. Y mae yn ein dysgu yn ngwirioneddau mawrion crefydd trwy esiamplau. Llyfr wedi ei gýfansoddi ar gyfer plant mewn ystyr ysbrydol yw y Beibl. Nid yw cymeriadau da y Beibl, ond darluniau y mae bys Duw .wedi dynu o egwyddorion teyrnas nefoedd—Abraham yn ddar- lun o ffyddlondeb—Job yn ddarlun o amynedd, a Moses yn ddarlun o lar- 16