Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. CíFRES XVIII.] GORPIIENTAF, 1379. [Hiiif 202.^ jratr, fît. MEIBION DUW. "Gwrlwch pa fath |gariad*a roddes y Tad arnom, fel y'n gelwid yn feibion'.i Dduw."—1 Ioan iii. 1. Gan y diweddar Mr. T. 0. Jones, Aberayron.* MAtî cryn lawer o bwys yn cael ei roddi ar gyineriadau pobl yn y byd hwn. Yn wir, y peth sydd yn gosod mawredd ar ddyn ydyw ei gymeriad, ac y mae liyn yn cael ei gydnabod yn gyffredinolj gan bawb. Os bydd dyn 'yn ei fywyd yn ddigon :hynod i; gael ei ystyried yn deilwng o drosglwyddiad mewn hanes i oesoedd dyfodol, ei gymeriad fydd yn gosod yr hynodrwydd hwnw arno. Y mae cymeriadau yn amrywio yn fawr iawn, a hyn syd'd yn gosod neillduol- rwydd ar un dyn ragor i ddyn arall. Nid yn unig y mae y cymeriadau yn gwahaniaethu, ond y mae nodweddau mewn cymeriadau sydd yn amrywio yn fawr. Rhyw un nodwedd, neu res o nodweddau, fydd y rhan amlaf yn gosod hynodrwydd ar ddynion, ac yn eu nheillduo oddiwrth eu cyd-ddynion, ac yn peri iddynt ddylanwadu ar] yr oes y maent yn byw ynddi. A phan y bydd y nodwedd hono wedi ei derchafu yn uchel, ac o natur ddaionus, y mae yn effeithio ac yn cael argraff er gwell ar ei gydoeswyr. Pe baem ond edrych o'n hamgylch ar hanesyddiaeth y byd, canfyddem ar unwaitìi mai un elfen sydd yn gosod hynodrwydd ar y dyn- ion hyny sydd gwedi dylanwadu fwyaf ar y byd. Y dynion hyny sydd gwedi peri neu achosi chwyldroadau mewn unrhyw beth, oeddynt yn hynod am ry w un peth penodol. Yn wir y mae iaith y wlad yn profì hyn tuhwnt i bob amheuaeth: wrth siarad am ryw ddyn mawr ac enwog, y mae yn sylwi ar yr elfen yn ei gymeriad ag sydd yn gosod hynodrwydd arno. Dy wedir am ddyn, fe allai, ei fod yn ddyn gonest. Y mae y dyn yn ddyn cymwynasgar, caruaidd, a serchog; ond y mae ei hynodrwydd ivyn gynw}rsedig yii ei onestrwydd, ac am hyny gelwir ef y dyn gonest. Y mae y rhinwedd yna fel pe gwedi llyncu i fynu ei holl rin- weddau ereill. Gwelir hyn eto yn eglur iawn yn mhlith. y dynion duwiol a da a gyfododd yr Arglwydd i fyny dan yr hen oruchwyliaeth, i ddwyn ei achos yn mlaen. Y mae yr elfen wahaniaethol hon i'w chanfod yn eu plith yn dra eglur. Yr oedd Abraham yn ddyn da iawn, ond yr oedd ei hyn- odrwydd yn gynwysedig yn mawredd ei ffydd. Yr oedd Moses yn llawn o rinweddau, ond am ei larieidd-dra yr oedd yn enwog. Felly Job, y mae yn sefyll allan yn mhlith ac o fysg yr holl batriarchiaid, ac yn esiampl i'r byd o'r gras o amyuedd. Yn y Testament Newydd eto, yn mhlith yr Apostolion, dylynwyr cyntaf yr Arglwydd Iesu, ni a wrelwn fod eu cymeriadau yn am- rywio yn fawr. Un yn hynod am y rhin- wedd hwn, a'r llalî am un arall. Yr oedd brwdfrydedd Pedr yn ei osod ar ben ei hun yn mhlith y deuddeg. Yr oedd zêl Paul yn ei hynodi yntau, ac * Dealled y darllenyddjfod Mr. Jones wedi marw gyda ei fodärn gorphen myned trwy y dosparth, a chyn Jiddo£gael ei.dderbyn tyu aelod o'r Cyfarfod Misol. 31