Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. Cyfres XVIII.] IONAWR, 1879. [Rhif 205. HANES BYWYD, NODWEDDION, A THEITHI MEDDYLIOL Y DIW- EDDAR MR. WILLIAM MORGAN—Y BARDD—ABERDAR. Gan y Parch. W. James, Aberdar, a'r Parch. John Lewis, Caerfyrddin. beth amser yn yr eglwys yno, ac yr oedd yn cofio yn dda am y neidio a'r molianu yno gan yr hen saint o dan ddylanwad y cynhyrfiadau dwyfol. Yn fuan adeiladwyd Carmel, a symud- odd y ddeadell fechan iddo, ac yno y gwnaeth ei rieni eu cartref crefyddoí o hyny allan. Bu ef am oddeutu tair blynedd i ffwrid yn Merthyr, gydag ewythr iddo, ac yn ystod ei arosiad yno cafodd profedigaethau mebyd ác ieúënctyd ddylanwad mawr arno. Yr oedd ei natur fywiog, n wyfus, a'r awydd angerddol sydd yn dueddol i ddynion ieuainc am weled a phrofl pob peth, yn ei wneuthur yn agored iawn i ddy- lanwad cwmpeini ofer a llygredigaethau yr oes. Bu agos iddo gáel ei lyneu i fyny gan y cyfryw demtastiynau, ác ystyriai ei hun fel pentewyn wedi ei achub o'r gyneuedig dân. Parai yr adgof am hyn iddo bob amser gydym- deimlo â bechgyn dibrofiad o natur danbaid, gyflym, anochelgar, sydu yn syrthio i brofedigaethau ymyfed a meddwdod. Hawdd y gallasai gyd- ymdeimlo, gan iddo yntau deimlo grym y brofedigaeth, a bu agos iddo fyned yn aberth i'r un teimladau. Nid y cymeriadau difywyd, oeraidd, diddrwg- didda, sydd yn cael eu llithio, ond ein dynion ieuainc cymdeithasgär, dysglaer, llawn asbri a bywyd, ydynt fynychaf yn syrthio i afael anghymedroldeb ac arferionllygredig. Dychwelodd ynol i Aberdâr pan oddeutu deunaw oed. Ar- dystrodd ddirwest ac ymunodd ag eg- lwys Dduw. Ni thorodd yr adystiad blaenaf ar unrhyw achlysur; ie, ni wyroddyny gradd lìeiaf oddiwrth ei ymrwymiad hyd ei fedd; ac ni chafodd (ö) RODOR ydoedd Mr. Morgan o Cefncoedcymer. Ganwyd ef yno Gorphenaf3ydd, 1819. Yroedd ei dad yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac yn flaenor ffyddlon ar hyd ei oes. Dygwyd ei íam i tyny gyda'r Annibyn- wyr, ond yn mhen amser ar ol iddi briodi, ymunodd a'r Methodistiaid. Nith ydoedd i'r Parch. Jenkin Lewis, D.D., Athraw Athrofa yr Annibyn- wyr yn Ngwrecsam, a phan yn ieuanc bu yn aros am gryn amser gyda'i hew- ythr. Cyfiifid hi yn ddynes galliawn, a diamheu ei bod wedi ei chynysgaeddu â galluoedd naturiol anarferol o gryf- ion, a chafodd fwy o fanteision a chyf- leusderau i ddadblygu a gwrteithio ei galluoedd nag a roddid yn gyffredin i ferched ieuainc yn y dyddiau hyny. Yr oedd hi a'i chwaer, Mrs. Griffiths, gwraig Mr. Evan Griffiths, a mam y brodyr Griffiths, Aberdar, yn hynod yn mysg eu cyfoedion, ac yn mhell uwch- law y canolradd mewn talent a gwy- bodaeth, a dylanwad moesol a chref- yddol, yn y cylchoedd oeddynt ýn troi ynddynt; yn wir, ystyrid hwy yn famau yn Israel. Teimlai Mr. Mor- gan barch dwfn i'w fam. Er iddo ei cholli pan yn bur ieuanc, gadawodd argraff annileadwy ar ei feddwl a'i deimlad, a siaradai am dani bob amser gyda serch dwfn, a'r fath edmygedd o'i galluoedd a duwiolfrydedd èi chymer- iad nas gall y rhai a'i clywodd byth anghofio. Pan yr oedd ef oddeutu chwech mlwydd oed, symudodd éi rieni i Aberdar. Nid oedd y pryd hwnw ond un capel gan y Methodist- iaid yn y lle, a hwnw yn un bychan a dystadl iawn. Dygwyd ef i fyny am