Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. Cyfres IX.] MAI, 1878. [Rhif 197. Cjrae%bair, #£• DYFODIAD CRIST A'R DERBYNIAD GAFODD. ; Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef."—Ioan i. 12. Gan y Parch. T. Rees, Merthyr. ID oes yr un enw priodol, nae unrhyw ditl, yn cael ei roddi yn yr adnod i'r gwrthddrych goruchel a gogoneddus y cyfeirir ato drwyddi, er y sonir am " ei enw ef" yn ei diwedd. Ond nid " enw" fel y cymerir ef yn gyffredin yn ein plith ni, wedi'r cwbl yw hwn, eithr yn ol dulí arferol yr Ysgrythyr, am yr hyn yw un—yr hyn y dengys ei fod. Oddiar hyn, nid am ei fod yn ddienw yr ydys yn ddystaw yn ei gylch yma. Na, y mae ganddo lawer o enwau i gyd, personol a swyddol, rhai fel Duw ac ereill fel Duw-ddyn. Pa fodd bynag, rhoddir ar ddeall yn annghamsyniol yn ei gylch yma, ei fod yn rhyw un mawr, yn ddim llai na Duw, gan ei fod yn un a dderbyniasid niewn ystyr neillduol a thra phwysig gan rywrai, fel yr haeddai yn dda ; a'u bod yn credu ynddo, fel na ellir gwneuthur mewn un creadur yn unig ; a'i fod yntau yn gyfryw fel y rhoddes i'r gwrthddrychau gwynfyd- edig hyn "allu i fod yn feibion i Dduw." A dim ond ymgynghori a'r cydadnodau blaenorol, deuir i wybcd yn union pwy ydyw ; ceir enw arno, ac im hynod, derchafedig, a llawn dirgel- wch. Y mae yn eithaf amlwg fod y rhagenw"ef" yn nechrsu ac yn niw- edd yr adnod, yn gystal a'r " efe " yn ei chanol, yn cyfeirio at yr un person bendigedig, sef ein Harglwydd Iesu Grist, a elwir droion yn y rhaglith i Efengyl Ioan wrth yr enw " Gair," a gosodir allan yn groyw a phendant iawn ei fod ef nid yn unig "yn y dechieuad gyda Duw," ond ei fod ef ei hun yn Dduw, &c. Mae y gair cyntaf yn yr adnod, " ond," yn rhoddi ar ddeall yn ddigon- ol, fod cysylltiad agos rhwng yr hyn a ychwanegir yma, â'r hyn sydd newydd gael ei ddy wedyd, mewn ffordd o gyfer- bymad. Crybwyllir yma am beth arall tra gwahanol, a hollol wrthwyneb i'r hynosedirar lawr yny geiriau union- gyrchol Waenorol. Mae ei " dderbyn ef" yma a llygad ar yr hyn adroddir yno, lle y desgrifìr ymddygiad cwbl groes oddiwrth ereill, tuag at yr un un ag sydd mewn golwg yma. Dyma fel y mae yr adnod fiaenorol yn rhedeg— " At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef." Mae cryn wahaniaeth rhwng ystyr y ddau air a gyfieithir yn " ei eiddo ei hun" bob un yma, nad yw ein iaith ni yn ei osod allan, nac yn gallu ychwaith heb gymhorth aralleiriad i roddi unrhyw amcan yn- ei gylch. Ac y mae yn anmhosibl wedi'r cwbl ei roddi yn ei lawn nerth yn ein iaith ni; oblegid er nad yw ond rhyw lythyren neu ddwy yn nherfyniad yr un gair, y mae yn eglur yn cynwys meddyladrych gwahanol iawn. Yn y lle eyntaf y dygwydda y gair yma golyga ei bethau ei hun, neu ei leoedd ei hun, ei breswyl- fa ei hun, megys ty dyn, ei dir, neu ei dda, a chyfieithir ef droiau yn " gar~ tref" "Ac o'r awr hono allan y cymerodd y dysgybl hi i'w gartref. " A hwythau a ddychwelasant i'w cartref;" tra yn yr ail le y dygwydda y gair ym», 21