Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. Cífres IX.] CHWEFROR, 1878. [Rhif 194. Igtograflmetjj. MR. HOWELL JONES, CYFRWYWR, GADLYS ROAD, ABERDAR. 'OS Sul, Mehefin 8fed, 1873, yn 74 mlwydd oed, y bu farw, neu yn hytrach yr hunodd yn yr Iesu, yr hen gyfaill anwyl y mae ei enw uwchben hyn o lith. Buasai yn fwy dymunol genyf fod rhywun gallu- ocach yn ymgymeryd ag ysgrifenu llith deilwng o hono, nag i mi ymaflyd yn y gorchwyl, am y credaf nas galíaf wneyd yr hyn a ddylid wneyd. Pe na buasai dim i'w gyfhodi ond a wneir am bobl yn gyffredin, y mae yn bosibl y gallaswn íwyddo i ddweyd yr ystDri arferol, fel yr ydis yn ari'er dweyd am bobl gyffredin. Ond nid un o'r cyfryw oedd yr hwn y mae ei enw dan sylw yn awr, ond un anghyffredin, ac anghy- ffredin iawn, fel y dywedwyd wrthym ddydd ei angladd gan y Parch. Thomas Rees, Merthyr. Yr oedd Mr. Rees ac yntau yn frodorion o'r un Ue, sef Defynog, ac er ei fod ef wedi symud oddiyno i'r cymydogaethau hyn pan nad oedd Mr. Rees ond ieuanc, er hyny yr oeddent yn gyfarwydd iawn a'u fllydd, ac yn hoff iawn o'u gilydd. eth digon hawdd hwyrach fyddai sicrhau yn fanwl am y pryd y mudodd i Aberdâr gyntaf, &c; ond digon i'm pwrpas i yw ei fod yma pan y dech- reuais i agor fy Uygaid i weled dim gwahaniaeth rhwng y naill gymeriad a'r llall, ac y mae hyny er's dros ddeugaln mlynedd bellach. O ran ei ddyn oddiallan yr oedd Howell Jones tua'r canol o ran hyd, braidd yn tueddu at y llawn neu'r stout. Gwyneb llawn, talcen llydan, nid yn uchel iawn, dau lygad gloew, a'r oll yn dynodi dyn o hynawsedd, serchog- rwydd, mwyneidd-'dra, a dealltwriaeth, nad aÜech obeithio cwrdd a'r cyfryw gyfuniad dymunol ond yn anaml hyd yn nod yn Nghymru, lle y ceir mwyaf o'r cyfryw wrth gwrs. Nid wyf yn gwybod pa gymaint o bwys sydd i'w roi ar a ddywedir am y rhagor mawr sydd wedi ei wneyd, gan yr Hwn a wnaeth bawb, yn nghyfansoddiad meddyliol un yn fwy nag arall. Fe ddywedir fod hwn a hwn yn meddu athrylith arbenig, ond nad yw yn un hoff iawn o ddodi hono i ryw lafur caled, o leiaf yn aml iawn, onite fe fyddai yn rhywun. Ond y mae'r cyfaill draw heb fawr athrylith, na hyd yn nod talent uchel iawn, ond y mae yna ymroddiad di-ildio, a dyna ddirgelwch ei lwyddiant, ac y mae wedi cyrhaedd uwch gradd mewn gwybodaeth a defnyddioldeb na'i gymydog galluocach ond mwy diog. Heb gymeryd arnat benderfynu, yr wyf yr un pryd yn credu fod y ddau beth yna i raddau wedi cydgwrdd yn ein brawd hwn. Yn ddiau meddai alluoedd nodedig, a chaf- odd ogwydd er yn foreu i ymdrechu mewn darllen a meddwl, fel yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf helaeth ei wybodaeth gyffredinol mewn tref a gwlad. Yr oedd yn hanesydd rhyfeddol o gyflawn a manwl; gwyddai yr holl helyntion gwladol ac eglwysig ym weddol lwyr ; yn wir, efe oedd En- cyclopedia Carmel pan oeddem ni, sydd bron myn'd yn hen bellach, yn llanciau dan ei ofal a'i addysg yn ei ddosbarth Sabbothol, yn arbemg yn mhethau penodol y fangre hono. Darllen y byddai yn ddiddiwedd hyd y misoedd olaf o'i fywyd blinderog, neu yn hytrach hyd y misoedd blinion olaf o'i fywyd. Nid oedd braidd un amser yn eistedd wrth y bwrdd i gymeryd ei ymborth nad oedd llyfr yn ei law aeu ar ybwrdd yn ei ymyl. Mae'n ynj-