HELYNTION Y MIS. 249 ** Pw, pw, hawdd siarad, ond yr wýf ft bron yn ysu pan yn cofio am yr hen amseroedd ; 'ie, yn gorfod cofio, o herwydd ystryw yr oes breeenol; yr amser pan oedd Pentyrch heb nn Pen- trepoeth ynddo, nac un pachman wedi halogi y troedffyrdd trwy y caeau gleision." Dyna, Dafydd, digon bellach, peid- iwch a thynu gwyr Pentyrch am ein penau ni, boed rhyngoch chwi a'ch gil- ydd, chwi fyddwch chwi ochr yn ochr, os dygwydd ffrae â rhyw un anmhlwyf- og, er yn ddigon chwanog i ffraeo â'ch gilydd, yr ydym yn eich adnabod chwi yn rhy dda. A pheidiwch siarad am y Pentrepoeth, nid ydyw y bobl am arfer y gair hwnw yn y lle : Treforgan yw'r enw priodol, ae, yr ydyin yn de- all fod rhai yn ddigofus am ei alw yu Pentrepoeth. O, Dafydd William Dafydd, arhoswch fynyd, gadewch i ní fyned at fater arall, a gadewch y Pen- trepoeth yn llonydd,canys yr ydyin yn ofni eich bod chwi yn poethi yn ormod- ol hefyd. Yn nghylch y gwr o'r White Hart, 08 ydych yn cofio, y buom yn siarad rhywbeth o'r blaen; y mae yn gymyd- og i chwi, a thebyg iawn eich bod yn gwybod rhywbeth am ei helynt y dyddiau diweddaf hyn. "Og*n, yn siwr, y mae'r gwr o'r White Hart wedi cael siomedigaeth anferthol yn Disraeli a'i Lywodraeth, canys dy wedodd wrthyf pwy ddydd, ei fod yn gweled yn eglur fod y tafarn- wyr wedi eu troi naill ochr, a phawb yn chwerthin am eu penau, a bod y clwyfau yn agored drwy'r holl fasnach anrhydeddus, ac yn fwy angherddol i'r teimlad o herwydd mai clwyfau a wnawd yn nhy eu caredigion oeddent. 1 Darfu i ni,' meddai, ' werthu ein hunain i'r Toriaid, ac yn awr, y maent hwy wedi ein gwerthu ninau !' Yr oedd y gwr o'r White Hart yn y dym- er waethaf a welais i erioed, yn tyngu ao yn blasto, fel y gall hen dafarnwr wneuthur ag sydd wedi arfer â'r cyfryw iaith, ac hefyd ei harfer o dan ddylanwad cwrw a gwirod. Yr °edd y ilawenydd a deimlodd, pan y daeth Mr. Cross a'r ysgrif i mewn wedi troi yn siomedigaeth, yn alar ac yn gabledd. Pe neidiodd y pryd hwnw, fel y gwyddoch, nes hollti y britis, ond pwy dydd yr oedd yn methu codi o'r gadair, neu yn rhy ddiog, neu ddigal on, eistedd yr ydoedd, a'r bibell yn ei ben, a'r pint ar y ford gron o'i flaen, yu gallu dweyd ondychydigiawn heb- law tyngu a rhegi. Yr oedd yn gallu gwneuthur hyny yn dafarnaidd.'' Ie, Dafydd, y mae yn ddigon tebyg fod y gwr o'r White Hart, a'i gyfeill- ion, wedi cyfarfod â siomedigaethau anghyffredin; eto, pe buasent yn ystyried y mater yn dda, gallasent ddeall mai felly y buasai yn troi allan, canys yr oedd cysylltu y Beibl a'r faril â'u gilydd, yn hollol anachaidd, ac yn debyg iawn o fod yn anghymer- adwy. Yr oedd dyc yn rhwym o gredu nad oedd yr un Llywodraeth Ddwyfal i gael, nen ynte, os ydoedd yn bod, ei bod yn rhwym o ymweled â'r fath gablwyr dychrynllyd. Fe wna Barnwr yr holl ddaear oddef llawer, eithr, pan cyrchir llestri ei dŷ i yfed gwin mewn gwledd annuwiol, gellir dysgwyl iddo ddywedyd " Mi a godaf yn awr." Os dygwyd llestri yr Argl- wydd, ac os halogwyd hwynt erioed wrth eu cymhwyso at ddybenion an- mhriodol, gwnawd hyny yn yr ethol- iadau diweddaf, pan y defnyddiwyd y Beibl a'r faril yn arwydd-eiriau, ac eu cysylltwyd à'u gilydd fel pethau i ymdrech o'u plaid. Dylasai byd yn oed y gwr o'r White Hart a'i gyfeillion ddeall fod gwir yradrech o blaid ffydd yr efengyl yn rhwym o fod yn wrthdarawiadol i daf- arndai, a phob peth a ddygir yn y blaen o'u mewn. Os cysylltir y Beibl a'r cwestiwn, nis gelHr edrych ar gadw tafarn yn fasnach briodol o gwbl; cadw tŷ i feddwi, i dyngu, i regi, i siarad pob aflendid, ac i beri i lygred- igaeth redeg can' gwaith cyflymach. Y mae yn gywilyddus fod dosparth o ddynion ag sydd yn byw ar lygredig- aeth gwlad yn methu gweled fod deg o'r gloch o'r nos yn ddigon diweddar i'r dynion anffodus sydd yn mynychu y fath dai i fyned adref i'w cartref- leoedd. Na, dim o'r fath beth, cael arian, heb wahaniaeth pa född ; serch i lygaid y wraig dlawd fod yn chwydd- edig wrth wylo, a'r plant heb fwyd na dillad; na, dim gwahaniaetb, pe bae yn haner lladd y trueiniaid tlawd ar ol myned adref, ond yn unig i'r gwr o'r White Hart gael yr arian. Cysyllttt y fath fasnach a hon a gair Duw, fel