Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfjltjjgraton. IV. Gyfres.] EBRILL, 1872. $»a4 u ffiîs. PLANT Y RHAI A LADDASANT Y PROPHWYDL " Felly yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain, eich bod yn blant i'r rhai a laddasant y prophwydi."—Matthew xxiii. 31. LRTH blant y mae ein Har- glwydd Iesu yn meddwl yn y testyn, nid plant naturiol, ond __ plant ysbrydol. Nid dynion wedi disgyn yn naturiol oddiwrth y bobl ddrwg y mae yn sôn am danynt, fel y mae un genhedlaeth yn disgyn o genhedlaeth arall, ond dynion o'r un fath—o'r un cymeriad. Yr oeddynt hwy yn blant naturiol i'r Iuddewon ag oeddynt yn byw yn yr un oesoedd a'r prophwydi; yn fwy felly nac yr ydym ni yn blant i'r bobl oeddynt yn byw yn y gwledydd hyn wyth cant o flynydd- oedd yn ol; oblegid yr oeddynt hwy yn cadw, tuhwnt i bob cenedl, ar eu penau eu hunain, ac yn ymgadw yn ofahis rhag ymgymysgu â phobloedd a chenedloedd ereill. Fe ddichon bod rhai o'r dynion ag yr oedd yr. Arglwydd Iesu yri llefaru wrthynt wedi disgyn yn uniongyrchol oddiwrth rai o'r prophwydi a'r cyfiawnion a gawsant eu lladd. Ond y mae yn dywedyd wrth- ynt eu bod, yn yr ystyr yn mha un y mae Efe yn llefaru, yn blant, nid i'r prophwydi, ond i'r dynion drwg a laddasant y prophwydi. Yr oeddynt oll yn had Abraham, ond yr oedd ystyr yn mha un nad oeddynt yn blant i Abraham. " Pe plant i Abraham a fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech;" ac yn yr ystyr hyny yr oedd- ynt yn blant i'r rhai a laddasant y prophwydi. Yr oeddynt yn blant iddynt yn yr un ystyr ag yr oeddynt yn blant i'r diafol—"O'ch tad diafol yr ydych, a gweithredoedd eich tad a fynwch chwi eu gwneuthur." Yr oeddynt yn dywedyd, " Pe buas- em ni yn nyddiau ein tadau ni, buasem ni yn gyfranogion â hwy yn ngwaed y prophwydi." Ond nid meddwl ein Hiachawdwr yw eu bod, wrth alw y bobl hyny yn dadau, yn cydnabod eu bod yn blant iddynt. Nid chwareu ar eiriau y mae Efe. Ni byddai Efe byth yn gwneuthur hyny. Ond y mae yn gosod i lawr egwyddor bwysig. Yr oedd eu tadau wedi lladd y prophwydi a'r rhai cyfiawn, ac yr oeddynt hwy yn adeiladu ac yn addurno beddau y prophwydi a'r rhai cyfiawn hyny, ac y mae ein Harglwydd yn dywedyd eu bod yn profi felly eu bod mewn ysbryd yn blant i'r llofruddion. Yr oedd gwahaniaeth mawr, rhaid addef, rhwng gweithredoedd eu tadau a'r eiddynt hwy. Ac yr oeddynt, nid yn unig yn wahanol, ond hefyd yn wrthwynebol i'w gilydd. Darfu i'w tadau ladd y prophwydi—y peth mwyaf effeithiol a allasent ei wneuth- ur i ddangos eu hanmarch o honynt a'u gelyniaeth tuag atynt. Ond yr oeddynt hwy yn dangos eu parch iddynt trwy adeiladu ac addurno eu beddau. Gyrasai eu tadau y proph- 16