Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgltljgraton. III. Gyfres.] TACHWEDD, 1871. [Ehif 119. S^raeíljüìrait, $t. DTTW Y GOBAITH. " Duw y gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cyn- yddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glan."—Rhuf. XV. 13. Gan y Parch. B. D. Thomas, Woodstock. MAE yr Apostol, trwy yr addewidion a wnaed i'r tadau, a'r rhagfynegiadau a wnaed gan y prophwydi, yn profi fod y Messiah wedi dyfod yn iachawdwr- iaeth i'r Cenedloedd yn gystal ag i'r Iuddewon ; ac wedi iddo ddangos fel y mae yn ysgrifenedig gyda golwg arnynt, y mae yn tori allan i weddio drostynt ar i Dduw gyflawnu ei fwr. iadau graslawn tuag atynt: " A Duw y gobaith a'ch cyflawno." Ni ä gawn yn y benod hon yr enwau mwyaf gogoneddus, hawddgar, ac anwyl, yn cael eu rhoddi ar Dduw. Y mae yn cael ei alw," Duw yr amynedd," " Duw y dyddanwch," " Duw yr heddwch," ac yn yr adnod dan sylw, "Duw y gobaith." Y mae gan yr enw hwn ddylanwad ar ein natur luddiedig i'w hadfywio. Nid yw hon yn weddi faith, ond y mae yn gynwysfawr, yn llawn o ysbryd taerineb a serchog- rwydd : " A'ch cyflawno o bobllawen- ydd a thangnefedd gan gredu." Y mae y dybeu, yu herwydd pa un y mae yn gweddio am eu cyflawnu, yn bwysig: "Fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glan." Felly y mae Duw, yn deilwngo'i enw, yn cyflawnu y rhai sydd yn credu yu Nghrist â jphob gras angenrheidiol: " Fel y byddo iddynt gynyddu trwy nerth yr Ysbryd Glan" mewn gobaith o gyrhaedd gogoniant. 1. Y mae gwithddrych yn cael ei gyfarch : " Duw y gobaith." Nid yw yn Dduw gobaith ond yn Nghrist, ac fel y cyfryw y mae yn wrthddrych gweddi. Y mae ynrhoddi i ni sylfaen gobaith. Nis gallwn ni, mewn ystyr briodol,ymddybynu arnom ein hunaiu, nac ar eiu gilydd. Y mae ein angeniou naturiol y fath nas gall neb ond Duw roddi i ni sylfaen gobaith am eu cyflawniad. Oddiwrtho ef yr ydym wedi caol ein bodolaeth, arno ef yr ydym yn ymddibynu, ac yuddo ef yr ydym yn byw. Ond y mae ein angenion, fel pechaduriaid, yn fwy ynddynt eu hunain, ac yn anhawddach i'w cyflawnu. Ni a gawsom trwy bechod ein hysgaru oddiwrth Dduw, a'n darostwng i drueui: " Cyflog pechod yw marwolaeth." Y mae ein cyflwr yn druenus, ac y mae ein had- feriad ar ein rhan ni yn anobeithiol. Nid oes dim i'w gael mewn dyn ond elfenau dinystr ac anuedwyddwch. "O Israel, ti a ddinystriaist dy hun," Oui buasai i Dduw ymddwyn tuag atom yu dosturiol,buasem heb obaith, ac heb Dduw yn y byd. Nis gallwn gael sylfaen i'n gobaith ond yuddo ef yn uuig : "Yuof fi y mae dy gyuihorth." Daioni ei uatur, yn gweithredu tuag 2 Y