Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€$H\$xk\bu. III. Gyfres.] MEDI, 1871. [Ehif 117. ®rae%írra, ŵt. NEF A DAEAB. NEWYDD. " Ac mi a welais nef newydd, canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aeth heibio, a'r môr nid oedd mwyach."—Dat. xxi. 1—4. Gan y Parch. Hugh Lloyd, Dowlais. [WELEDIGAETH y testyn yw yt olaf a roddwyd i Ioan, y dysgybl anwyl, yn Patmos ; ac y mae yn arddaugos yr ystad _ a dedwydd yn yr hon y bydd eglwys Dduw yn aros yn dragywyddol. Yroeddyllythyrau oeddwedieu hanfon at saith eglwys Asia wedi eu derbyn. Yr oedd saith sel y llyfr dirgeledig a roddwyd yn llaw yr Oen wedieu hagor. Yr oedd y saith udgorn wedi eu hud- ganu. Ýr oedd y saith phiol wedi eu tywallt. Yr oedd yr holl weledigaethau prophwydol oedd wedi rhagddangos profedigaethau a llwyddiant yr eglwys yn y byd wedi eu cyflawnu; a mil o flynyddoedd o heddwch, santeiddrwydd, a llawenydd yr eglwys wedi pasio ac wedi bendithio y byd. Yr oedd y farn ddiweddaf wedi eistedd, ac wedi pen- derfyuu condemniad y drygionus & chyfiawnhad y-duwiol. Ond wedi i'r nefoedd fyned heibio gyda thwrf, a'r ddaear a'r gwaith sydd ynddi i losgi, ymae Duw yn dyfod a byd gwelli'r golwg, yr hwn sydd i fod yn gartref dedwydd tragywyddol i'w blant. Y ttae y darluniad o'r ystad ogoneddus yma yn cael ei rhoddi yn y testyn— &ef newydd a daear newydd. Daear jiewydd yn oael ei hamgylchu a ffur- íafen newydd. Y mae gardd Eden newydd yn y wlad, y mae pren y bywyd yn tyfu ynddi, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwytb, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth. Y mae afon bur dwfr y bywyd yn rhedeg trwyddi. Y mae yma ddinas ogoneddus hefyd; dinas o aur pur fel gwydr gloyw. Mae ei muriau o jaspis, mae ei phyrth o berlau, mae ei heolydd o aur pur. Y njae tabernacl Duw yn ei chanol. Ni raid iddi wrth oleuni. yr haui na goleuni y Ueuad, "Canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw yr Oen." Bydd y sefyllfa ogon- eddus yma, medd y testyu, yn un newydd. Bydd y pethau o'r blaen wedi myned heibio, wedi newid am wrthddrychau newyddion, trefniadau newyddion, gwaith newydd, a chym- deitbas dragywyddol newydd wedi ei sefydln. Bydd y golygfeydd i gyd yn newydd, a bydd y sefyllfa a'r du.ll o fyw yn newydd, " Canys ni ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw." Bydd y teulu yn y nefoedd wedi eu crynhoi yn un genedl santaidd ddedwydd. Bydd y nef a'r ddaear newydd o un iaitb, heb eu gwahanu gan afonydd na moroedd. " Canys ní bydd mor yno," "a'r môr nid oedd mwyach •" o.ndnn. cyfandir dedwydd tragywyddol. Bydd; Daw wedi sychu dagrau y teulu, canya ni bydd marw mwy yno, "a marwolaeth. ni bydd mwyach, na thristwoh, na 2 o