Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CjIílgrHton. III. Gyfres.] GORPHENIF, 1871. [Rhif 115. ^raetímto, ẃc. YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH. PERSON gonestaf a fu yn y byd erioed oedd Iesu Grist. Er pan droseddodd y dyn cyntaf ni fu neb arall yn mhob peth yn berffaith onest ond ei hunan. Er ei fod yn casâu anonest- rwydd o bob math, eto nid oedd yr un math o anonestrwydd yn cael ei gasâu ganddo yn fwy, os yn gymaint, a rhagrith. Ac nid oecìcl rhagrith un amser mor adgas ganddo a phan yn ceisio gwyneb gonest, ae arddangos gwên serchoglawn. Ac yn wir, nid oes y tu yma i uffern ei hunan gymer- iad mor ofnadwy a'r dyn, pe rhoddech y byd iddo, nas gall edrych yn graff yn eich gwyneb, ond sydd o dan gochl crefydd yn gwyro ei ben, yn anffurtio ei wynob, yn gwenu dan ei ael, ac yn Uefaru geiriau a mêl arnynt, er mwyn eich djaysu yn eich ymadrodd, neu °ich hudo oddiar ffordd cyíìawnder, eich drygu yn eich amgylchiadau, neu eich niweidio yn eich cymeriad. Yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r ^hariseaid Iuddewig yn rhagrithwyr trwyadl, ac yn rhagrithwyr bob amser ; ac yr oedd Iesu Grist yn cyhoeddi gwaeau arnynt, ond nid oedd ei eiriau byth yn fwy miniog a deifiol na phan hiasai y bobl hyn o dan gochl gonest- ^wydd ac uniondeb yn ei alw i gyfrif am ei weithredoedd, neu yn ceisio ei rwydo a'i ddyrysu yn ei ymadrodd. Ar un tro aeth yr Iesu i mewn i'r aeml yn Jerusalem, "Ac a daflodd ahan bawb a'r a oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwel- odd i lawr fyrddau y nowidwyr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gerthu colomenod ; ac efe a ddywedodd wrth- ynt, Ysgrifenwyd, Ty gweddi y gelwir I fy nhŷ^ i, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ; ogof lladron. A daeth y deillion a'r ! cloffion ato yn y deml: ac efe a'u í hiachaodd hwynt. A phan welodd yr : archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion y ; rhyfeddodau a wnaethai Efe, a'r plant yn llefain yn y deml ac yn dywedyd, i Hosanna i fab Dafydd, hwy a lidias- ant." Tranoeth hwy a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan : ddywedyd, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn ? A phwy a roddes i ti yr awdurdod hyn ?" Er y gallasid meddwl, ar un ^ llaw, iddynt ofyn y cwestiwn hyn I iddo, bron fel y peth diweddaf cyn i cydnabod ei awdurdod ddwyfol. ac ymostwng iddo fel y IMessiah addaw- : edig ; eto, ar y llaw arall, y mae yma awgrymiad eglur eu bod hwy yn • ystyried mai rhuthro a wnaeth fel Diwygiwr i'r lle nad ydoedd ganddo hawí i fod, ond yn unig fel addolwr j gostyngcdig. Ond y mae yv Arglwydd ! Iesu yn gweled eu calon, ac, yií yr I olwg arni hi y mae yn troi atynt ac yn. I dywedyd wrthynt, %í Minau a ofynaf i ; chwithau un gair, yr hwn os myneg- 1 Avch i mi, minau a fynegaf i chwithau drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneu- ' thur y pethau hyn : Bedydd Ioan o I ba le^ yr ocdd, ai o'r nef ai o ddyn- • ion V Nid ydoedd liyn, ar ran y Gwared- 2 E