Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

g CglcíjgrafoîL III. Gyfres.] MEHEFItf, 1871 [Rhip 114. f&TUtfytììmn, $t. PHILOSOPHI A GWAG DWYLL. (CoL. MAE pethau da yn dda yu unig tra y cedwir hwy yn eu lle, ac y defnyddir hwy at eu — , ^. hamcanion eu hunain. Y mae yr hyn sydd yn ei le ei hun yn fendith fawr yn myned yn fynych wrth ei osod allan o'i le yn felldith annhraethol. Y mae yr hyn sydd yn ei le yn ddefnydd- iol—yn ateb dybenion daionus—pan ei gosodir allan o'i le yn myned yn waeth uac yn ddiddefnydd—yn gwneuthur drygaa mawrion a dystryw anadfer- adwy. Y mae hyn yn wirionedd am yr hyn a elwir yn philosophi. Y peth a adwaenir wrth yr euw Cymraeg—ath- roniaeth. Ystyr y gair yw cariad at ddoethineb, ac y mae yn anmhosibl i un dyn i fod yn rhy ddoeth, nac i garu gormod ar ddoethineb. Yn ddigon anghysurus y byddem ni yn y byd yma heb philosophi, ac efallai nas gallem fyw o gwbl heb ryw gymaÌDt o hono. Y mae llawer o bethau ag y mae arnom eisieu eu gwybod tuag at fyw, a Hawer mwy ag y mae arnom eisìeu eu gwybod tuag at fyw gydag un gradd o gysur, y rhai nadyw Duw wedi gweled yn dda eu gwneuthur yn hysbys i ni trwy ddatguddiad. Y mae ein Creawd- wr wedi rhoddi gallu i ni i chwilio i mewn i'r pethau hyny, a'u cael allan drosom ein hunain. Y mae rhai yn meddu mwy o'r gallu hwn uac ereill, a r rhai sydd yn meddu mwyaf o hono, 40 yn gwrteithio mwyaf arno, yw y philosophyddion mwyaf. Y mae y byd yo dra dyledua i philosophi, ac wedi derbyn bendithion mawrion trwyddi. * r ydym yn cyfranogi o'r lleahad sydd ii. 8.) ynddi hi yn yr ymborth ag yr ydym yn ei fwyta, yn y dillad ag yr ydym yn eu gwisgo, yn y tai yn mha rai yr ydym yn preswylio, yn y cerbydau yn mha rai yr ydym yn teithio, y ffyrdd ar ba rai y mae y rhai hyny yn rhedeg, y gallu gan ba uq ý maent yu caeleutynu, ac yn yr holl ddyfeisiadau t a'r gwelliadau ag yr ydym yn eu cael mor ddefuyddiol at wahanol amcanion bywyd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwngy Barbariad noeth a'r Europiad gwrteithiedig sydd yn mwynhau holl gysuron a moethau gwareiddiad; ac y mae y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth hwnw yn cael ei wneuthur gan philo- sophi. Ac yn y fan yma y mae yn ei lle ei hun, a thra yr aroso yn ei lle ei hun, ac heb geisio gwneuthur dim ond yr hyn a roddodd Duw iddi i'w wneuthur, y mae yn fendith. Dyna'r pryd y mae yu myned yn beryglus, pan fyddo'u anturio y tuallan i'w chylch ei hun, ac yn gosod ei hunan yn erbyn gwybod- aeth Duw yn y pethau hyny nad oes neb ond Duw ei hun yn eu gwybod; a hyny y mae hi yn ei wneuthur yn awr. Y mae dynion yD cymhwyso at yr hyn sydd foesol ac ysbrydol reolau sydd wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer yr hyn sydd naturiol. Y maent yn ceisio mesur y nefoedd a'r llinynau a roddes Duw iddyut i fesur y ddaear. Ni bu erioed fwy o angen nac sydd yn awr am y rhybydd, "Edryehwoh na fyddo neb yn eich aurheithio," <fcc. Sylwu yn— I. Fod gwybodaeth dynioa yn awr