Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cglíljgratoît. Cyfres Newydd.] TACHWEDD 1870. [Rhif 107. ®rae%trra, #c, YSBRYDOLRWYDD MEDDWL. " Syniad y cnawd morwolaeth yw, ond syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw."—Ehuf. viii. 6. Gan y Parch. Hugh Lloyd, Dowlais. MAE pwnc y fcestyn yn uno'r gwirioneddau uiwyaf pwysig a all feddianu ein sylw a'n my- _ , w fyrdodau, a dymunem ei gyf- lwyno i ystyriaeth yn y fath fodd ag a ychwanegai ysbrydolrwydd ein medd- yliau oll. Y mae rhai o'n darllenwyr yn brofiadol gydnabyddus a'r pwnc pwysig hwn. Mae cnawdolrwydd a gelyniaeth at Dduw, i ryw raddau o leiaf, wedi eu darostwng ynoch ; a'r meddwl wedi ei gysgegru i'r Ysbryd GUn ac i'r Gwaredwr. Y mae bywyd a thangnefedd yn eiddo i chwi. A'r bwn a ddechreuodd 'y gwaith da yma a'i gorpben hyd ddydd Iesu Grisfc. Y mae y gwiriouedd yma yn un o ddir- gelion teyrnas nefoedd, nis gall y dyn anianol mo'i ddeall. Rhaid dyfod i ysgol yr Ysbryd Glan cyn y gellir am- gyffred y pethau sydd o Ysbryd Duw. Sylwn— I. Ar natur ysbrydolrwydd meddwl. Y mae y gair yma syniad yr ysbryd—- meddwl pethau yr ysbryd, yn cael ei wrthgyferbynu yma gan yr apostol i syniad y cnawd—meddwl cnawdol. Dyma yr ysfcad y daeth meddwl dyn ynddi i'r byd; ac y mae yr ansawdd öieddwl yma yn cryfbau fel y mae dynion yn ymarfer a pbechod. Y Biaent yn dyweyd yn ddrwg am y Pethau nad ydynt erioed wedi gwybod dim am danynt. Gall dyn fod yn ddeallus, yn oleu yn ei ben, ac yn îoesol yn ei ymddygiadau, ac efcoyn hollol gnawdol ei feddwl, a ffafr Duw a'i gymdeithas heb gael un ystafell na chartref yn ei feddwl. Ond— laf. Y gwrthddrychau y mae yr ysbrydol ei feddwl yn eu caru. Y maent yn cael eu galw yn y testyn yn bethau yr Ysbryd. Y mae gwrth- ddrychau a phethau mewn bodolaeth heblaw y pethau a welir, y mae pethau yr ysbryd yn bod, pethau nad ydynt i'w cyrhaedd trwy rym synwyr natur- iol, na thrwy rym dealldwriaeth ar ei phen ei hun—pethau y mae Duw yn eu hegluro i'w blant trwy ei Ysbryd: y pethau am Dduw yn ei gymeriad grasol a santaidd, am Berson Crist a gwaith y prynedigaeth, dylanwadau a santeiddiad yr Ysbryd, y gogoniant a'r anfarwoldeb sydd yn aros y credadyn yr ochr draw; â'r pethau hyn y mae meddwl y dyn ysbrydol wedi ei ddo- drefnu. Y pethau nad yw y byd yn eu gweled nac yn eu hadnabod. Ond gellir dywedyd am y duwiol, chwi a'u hadwaenwch hwynt. Ereu bod hwy yn nghudd, "fe'u gwelir gan ffydd, ceir eglur ddatguddiad o honynt ryw ddydd." 2. Y modd y mae yr ysbrydol ei feddwl yn ymdeimlo ac yn barnu pethau yr Ysbryd. Y mae yn meddwl neu yn synied am danynt, medd eiu testyn. Y mae yn arogli ac yn blasu pethau yr ysbryd. Y mae blas gan y dyn sydd wedi ei eni o Dduw ar lu