Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cglrjfgraton. Cyfres Newydd.] AWST, 1870. [Rhif 104. ®rae%t*itu, ŵc. CADWEDIGAETH PECHADUR. "Pwy gan hyny a all fod yn gadwedig."(—Mat. 19. 25, 26.) Gan y diweddar Barch. Thos. Pardoe, Moroanwg. ;R achlysur o lefaru y geiriau hyn, oedd dyfodiad gwr ieuanc cyfeethog at yr Iesu, gan ei . ^ gyfarch a gofyn iddo, " Athraw da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol ?" Mae bywyd tragywyddol yn beth dymunol iawn, fe geir y drygionus yn ei ddymuno. Yr oedd Baalam yn hir- aethu am farw o farwolaeth yr uniawn, heb ofalu dim am fyw bywyd yr uniawn ; mae miloedd yn debyg iddo. Nid felly y gwr ieuanc hwn ; tybiai efe fod yn rhaid gwneuthur rhyw ddaioni, ac i'r dyben o gael gwybod pa ddaioni, efe a ddaeth at yr Iesu. Mae yntau yn He ei ateb yn uniongyrchol, yn ei ddal ar ei gyfarchiad. Gwelir fod gan y Pharisead hwn well meddwl am Grist na'r Phariseaid yn gyffredin: tybiai efe eifod yn "Athraw da," dim yn fwy na dyn. Paham i'm gelwir yn dda, ebe'r Iesu, nid oes neb yu dda °nd uu', sef Duw, ffynon daioni ei holl greaduriaid ; fel pe dy wedai, os ydwyf yn dda yn yr ystyr hyn,diau mai Duw ydwyf. Wedi hyny y mae yr Iesu yn ei ateb yo ol ei ofyniad, i'r dyben i ddarost- Wng ei falchder. Gan dy fod am wneuthur, ebe'r Iesu, cadw y gorch- ymynion. " Pa rai," ebe'r gwr ieuanc. Efe a ddylasai wybod ei fod i'w cadw i gyd neu syrthio yn fyr o fywyd tragy- wyddol. Mae yr Arglwydd Iesu yn coffàu gorchymynion yr ail lech yn unig. Wele'r gwr ieuanc yntau yn ateb, " y rhai hyn oll a gedwais o'm hieuenctyd." Ymddengys ei fod yn eu cadw hefyd o ran y llythyren, oblegid fe ddywedir i'r Arglwydd lesu ei hoffì. Yr oedd wedi byw yn ddiargyhoedd fel Saul o Tarsus, yn ol y cyfiawnder sydd yn y ddeddf yn ddi-argyhoedd. Efe a ddywedai, beth sydd yn eisieu i mi eto, y mae genyf ddigon o allu i wneyd, a digon o ewyllys. Wel, ebe'r Iesu, os ewyllysi fod yn berffaith, gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y nef, tyred canlyn fi. Bargen rhy ddrud i'r gwr ieuanc, efe a aeth i'w ffordd yn drist iawn, ni chlybuwyd am dano byth rawyach ; efe a drodd ei gefn ar y ffordd i gael bywyd tragywyddol, ar yr unig drefn am byth, yr unignoddfa, yr unig arch. Yna yr Iesu a droes a<; ei ddysgybl- ion ac a ddangosodd iddynt, fod yn rhaid ymwadu à'r byd yn ei gyfoetb, yn ei bleserau, a'i anrhydedd. A phan glybu y dysgyblion yr athrawiaeth ddyeithr a chaled hon, a synu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddy- j 1