Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<ffglr|grataît. Cyfres Newtdd.] EBRILL, 1870. [Rhif. 100. Cra£%umt, &t. CREFYDD MOSES. SYLWADAU AR HEBREAID XI. 2 4—2 6. Gan y Parch. John Cledwyn Jones. jRIF amcan yr Epistol hwn yw ^gj> dangos i'r Hebreaid crediniol ragoriaeth a mwy gogoniant yr . -^ » oruchwyliaeth Gristionogol ar y gysgodol, er eu cadarnhau yn y ffydd, yn ngwyneb ymosodiadau gau-athraw- gû Iuddewig oedd yn ceisio eu denu yn ol at Iuddewaeth. Wedi dangos trwy ymresymiad clir a gorchestol yn y penodau cyntaf dra-ragoriaeth y naill ar y llall, o gymaint ag y mae y sylwedd yn rhagori ar y cysgod, y mae yn y penodau dylynol yn eu taer ano* i beidio troi yn ol a gollwng gafael yn y tir oeddeut wedi feddianu er diin. Ac os buasai raid iddynt ddyoddef erledigaethau a chreulonderauyu achos eu crefydd, iddynt wneyd hyny yn dawel ac ewyllysgar yn hytrach na'i gwadu. Dengys iddynt yn y benod hon gymaint o orthrymderau a chaledi oedd gwroniaid yr Hen Destament wedi ddyoddef mewn cysylltiad a'u crefydd, ond eu bod wedi myned trwy yr oll "yn fwy nacboucwerwyr," trwy nerth eu ffydd a'u hymddiried yn Nuw; a chynghora hwythau i beidio ei chy- meryd yn chwith os buasai raid iddyut ddyoddef; na buasent trwy hyny ond yn gyffelyb i'w t'adau ; onJ am iddynt fynu gafael yn yr unrhyw " werthfawr ffydd " ag a roddodd i'r ** henuriaid air da,'' fel y gallasent ddal yn ddewr yn. ngwyneb pa amgylchiadau bynag a ddeuai i'w cyfarfod hwynt mewn cys- ylltiad a'u crefydd. Yn yr adnodau uchod, cofnoda yr Apostol orchestion ffydd Moses. Yr oedd Moses yn un o'r dynion hynotaf —yr hynotaf o ran hyny—a welodd ein byd ni erioed. Efe, o bawb, oddi- gerth y "Dyn Crist Iesu," sydd wedi cerfio ei enw ddyfnaf ar hanesiaeth yr oesoedd. Ni fu cyfryngiad dwyfol yn amlycach yn hanes neb erioed ; ac ni fu neb yn dal y fath berthynas â Duw a dynion a'r dyn rhyfeddol hwn. Mae hanes ei fywyd yn llawn o'r amgylch- iadau mwyaf cynhyrfus a dyddorol, ao yn gymaint a'u bod yn llawn o fywyd gwirioneddol, y maent yn fwy swynol na'r ffughanes f wyaf alluog ac atdyniad* ol a gyfansoddwyd erioed. Os oes eisieu rhywbeth newydd a ffres arnom i dori ar undoniaeth bywyd, darllenwn hanes dynipn Duw : dyma hanesiaeth sydd a'i Uonaid o newydddeb, a'r newydd-deb hwnw yn llawn natur a bywyd. Tafiwn fras-olwg ar hanes Moses o'i enedigaeth i'w farwolaeth,— y mae yn llawn o'r dyddordeb mwyaf, mae ynddi gyfuniad o'r syml, y rham- antus, y cyffrous, a'r gwronaidd mewn bywyd, ae argraff ddwyfol ar y oyfan.