Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cglcjjgraton, Cyfres Newydd.] MAWRTH, 1870. [Rhif. 99. Sracijmtrra, #c. BETH Y MAE YR YSGRYTHYR YN EI DDYWEDYD ? Gax y Parch. J. H. Symond, Wresham. B, Arglwydd Iesu a dynion llawn o'r Ysbryd Glân ydyw y rhai cymbwysaf o bawb fu yn y byd erioed i siarad am yr Ysgrythyrau; a byddai yn dda i ni gadw golwg barhaus ar y ruodd y maent hwy wedi Uefarn am Ysgryth- yrau yr Heu Destament. Gellir bod yn amheus yn union o gredo unrhyw ddyn, ac o'i dduwioldeb hefyd, os nad yw yu tynu yn debyg i'r Arglwydd Iesu a'r Apostolion yn y gydnabydd- iaeth mae yn roi i'r Ysgrythyrau, ac yn y defnydd y mae yu wneyd o honynt. Er mwyn tystiolaethu i'r gwirionedd y ganwyd Iesu Grist, ac er mwyn hyn y daeth i'r byd. Cafodd yr Y^grythyrau barch ac ufudd-dod mwy cyflawn gan yr Arglwydd Iesu na chan neb arall fu yn y byd erioed. Ac nis gallai gogon- iant, nac esmwythyd, nac elw, nac un- rhyw fantais ddaearol fod mewn golwg ganddo drwy hyny: oblegid drwy addef gwirionedd yr holl Ysgrythyrau, yr oedd yn gosod ei hunan dan yr angenrheidrwydd i ddyoddef yr holl boeuau, a chyfiawnu pob petb a ysgrif- enwyd yn nghyfraith Moses, y Pro- phwydi, a'r Salmau am dano. Ond er cymaint oedd cyduabod awdurdod yr holl air ysgrifenedig yn ei gostio i'r Arglwydd lesu, eto parhaodd i ddweyd drwy y cwbl fod yn rhaid cyfiawnu yr Ysgrythyrau,—" Yr Ysgrythyr nis gellir ei thori." Pe buasai dynion wedi cael yr Ys- grythyrau mewn rhyw wedd annheil- wng, neu pe y buasai ynddynt ry wbeth eisieu ei newid, yr adeg y bu Crist ar y ddaear ydoedd y cyfnod mwyaf addas fu ar y byd, o ddyddiau Moses hyd yn awr, i wneyd hyuy. Oblegid yn un peth yr oedd yr Iuddewon y pryd hwnw wedi myned i eithafion yn eu hymlyniad ffurfiol wrth ddysgeidiaeth Moses, ac ysgrifeniadau ereill yr Hen Destament. Yr oeddynt yn gosod mwy o bwys ar Moses nag ar Iesu Grist, ac yn dal eu hunain o ochr Moses yn erbyn Crist. "Dysgyblion Moses," meddent, "ydym ni. Ni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses, eithr hwn nis gwyddom ni o ba le y mae efe." Yr oeddynt yn myned mor bell, fel os caent le i dybied fod ìbyw rai yn siarad yn erbyn Moses, neu newid y defodau a draddododd Moses iddynt, yr oeddynt yn union am en rhoddi i farwolaeth. A chan fod tuedd yn yr Iuddewon ar y pryd i fyned i'r fath eithafìon cyfeiliornus o blaid Moses, felly, os oedd yn yr Hen Desta- meut rywbeth yn ormodol yn fFafr Moses, dyna yr adeg yr oedd mwyaf o angen am ei gywiro. Hefyd yr oedd ar y ddaear y pryd hwnw y Person cymhwysaf o bawb i ddiwygio unrhyw