Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

204 YR ADGYFODTAD. contractor i adeiladu, nid oes achos iddo gywilyddio. Erbyn heddyw, y mae dydd agoriad Horeb yn argraph- edig ar lydan lechres y pethau a fu, ac nid oes mwy yn aros ond dwfn effeithiau y gwirioneddau dwyfol a draddodwyd gan genadon Duw yn ystod y cyfarfodydd Cymerodd yr agoriadle ar ddyddiauSul aLun, y 23ain a'r 24ain o Chwefror, pryd y gweinydd- wyd yn ystod y ddau ddiwrnod gan y Parchn. W. Jones, Ystrad; D. Phillips, Maesteg; Mr. Jones, (B.) Aberdulais; a Dr. J. H. Jones, Trefecca; a'r Parch. W. Thomas (Islwyn). Yr oedd yr holl draddodiad yn effeithiol a dylanwadol. Yr ydym yn hyderu fod yma wreichion by w o gariad wedi eu cyneu yn nghalonau lluoedd o bechaduriaid at y Gwar- edwr, ac y bydd iddynt enyn a chynyddu nes eu henill yn gyfangwbl i garu a gwasanaethu yr Hwn a aned yn Methlehem Judah yn Dywysog ac yn Frenin i'r holl genhedloedd. Bell- acb, wele aelwyd yn ein meddiant ein hunain a digonedd o le i wneyd ein rhan ddyledus. Hyderwn y bydd nodded ac amddiffyn y Pen-llywydd mawr arnom yn wastadol. Nifer yr aelodau yn bresenol sydd yn agos i gant, a chyfartaledd yr Ysgol Sabbothol yn 80 o rifedi. Dysgwylir cynydd bellach ar bob moddion o ras, Mae yma ddi- gonedd o le i wahodd i'r winllan ganoedd o'r cyfryw ag sydd yn di- fîrwytho eu hamser. Gwerth y capel, a thy'r capel, ynghyd a'r ffens wall, a man dreuliau ereill cysylltiedig â'r adeiladaeth, ydynt yn cyrhaedd o fewn ychydig bunoedd i ddeuddeg cant. Cyfanswm yr hyn yr ydys wedi dderbyn trwy gardiau o'r gwahanol gasgliadau ereill ydynt £115. Trodd yn anffbdus yn ein herbyn adeg yr agoriad o ber- wydd y gostyngiad dirfawr sydd wedi cymeryd lle yn y cyflogau, a marweidd- dra masnach. Gobeithiwn y goreu wedi'r cyfan, a diolchwn yn barchus am yr byn a gaf wyd. Gieddwyson. YE ADGYFODIAD. Ar foreu'r adgyfodiad Daw'r meirwon oll yn fyw, Y beddau a agorir Pan genir udgorn Duw ; Y da a adgyíbdant I hedd a bywyd pur, A'r rhai a wnaethant gamwedd, I warth a bythol gur. Dysgleirio wna'r cyfiawnion Fel sêr yn entrych nen, Y doethion a lewyrchant Fel goleu'r haul uwch ben ; Gogonianfc anniflanol Ỳn goron iddynt fydd, Mewn gwynfyd annhraethadwy, Heb neb a'i fron yn brudd. Y corff a ro'ed i orwedd Mewn llygredd yn y llawr, Yn anllygredig godir Yn 'r adgyfodiad mawr ; Y marwol hwn a wisgir Ag anfarwoldeb îr, Fel gallo gyd-fodoli Am byth â'r Duwdod pur. Y corff anianol gleddir YTn mhriddell oer y bedd, A godir yn yshrydoí Àr ddelw Brenin hedd; Fe'i heuir ef mewn anmharch, Fel peth o fychan weith, Fe'i codir mewn gogoniant, Mewn urddas ac mewn nerth, Mor ddedwydd fydd y horeu ! Pa bryd y gwawria'r dydd, Pan ddelo caethion angeu O'i garchar ef yn rhydd ? Mewn cyflawn fuddugoliaeth Fe'i llyncir ganddynt hwy; Cydstâd y'nt a'r angylion, Nis gallant farw mwy. Caiff plant yr adgyfodiad Fwynhau cymdeithas Duw, A chorff fel corff yr Iesu, 0 ogoneddus ryw; Cânt syllu yn ei wyneb, Ei weled fel y mae, A chanu'n iach byth bythoedd 1 gystudd, poen, a gwae. Sciwen. Cleeigus. BÜCHEDD-DRAETH, Neu ychydîg o hanes genedigaeth a bywyd Iago Trichrug, a ysgrijiwyd ganddo ei hun, yn y flwyddyn 1825, pan yn 45 oed. (Parhad). Eebyn hyn yr oedd fcymhor amodawl fy mhrentisiaeth bron ar ben; a chyn gynted ag y daeth i fynu, mi a chwiliais fy ychydig garpiau at eu gilydd ao* adewais fy meistr heb gyaiftint a