Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CgUjjgratoîi Cyfres Newydd.] CHWEFROR, 1867. [Rhif. 62. Cr;utjj0uatt, #r, Y PARCHEDIG MORGAN JOHN RHYS, A'I DDYDD-LYFR. GAN Y PARCH. T. PHILLIPS, D.D. ^n^j^AE yn dra thebygol y gofynir gan lawer un, Pwy yw Morgan Imfinií J°nn Pnys ^ Fy nyledswydd inau ydyw ateb y cyfryw gwestiwn, ^I^Ço) a hyny a wnaf mor fyr ag y medraf. Afreidiol ydyw i mi ddweyd mai Cymro oedd, oblegid fe gesglir hyny yn hawdd oddiwrth ei dri enw, yn enwedig oddiwrth y cyntaf a'r olaf o honynt. Fe'i ganwyd mewn Fferm-dỳ gyfrifol gerllaw Ystrad-mynach, Sir Forganwg. Mae y tỳ i'w weled wrth drafaelu y íFordd lráiarn rhwng Pontypool a Chaerffili, heb fod yn mhell oddiwrth Hengoed, un o hen eglwysi y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru. Yn yr eglwys hon y cafodd Morgan John Rhys aelodaeth pan yn dra ieuanc, ac oddiyma yr aeth i eael manteision athrofaol yn Nghaerodor (Bristol), yr unig Goleg a feddai yr enwad y pryd hyny. Wedi gorphon y cwrs arferol ynyr Athrofa, cafodd wahodd- iad i bregethu yji Penygarn, gerllaw tref Pontypool, lle mae Athrofa y Bedyddwyr yn bresenol. Yma yr ordeiniwyd ef yn Weinidog yr Efengyl, a threuliodd rai blynyddau yn gweinîdogethau yn y Ue hwn, gan deithio cryn lawer trwy yr ardaloedd cylchjaiol yn Mynwy a Morganwg, Yr unig un sydd yn awr yn fyw, am a wn i, sydd yn cofio am Morgan John ■^uys> ydyw yr hybarch Mr. Williams, o Droedrhiwdalar. Mae yntau, bellach, yn 88 mlwydd oed, y gweinidog bynaf, o bosibl, yn holl Gymru. Dywedodd wrthyf yn ddiweddar iddo ei glywed yn pregethu yn y flwyddyn 1791. Yr oedd Mr. Rhys yn "gyfaill" i'r Parch. D. jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Pontypool, ac ar daith trwy Sii'Frycheiniog. Cafodd Mr. Williams y pleser o'i glywed ddwywaith, a phan yn preg- ethu yn y Golynos, plwyf Llanwrtyd, ar ddj^dd Llun Pasg, íe gafodd <3yn o'r enw Morgan Waters droedigaeth dau weinidogaeth y gwyr dyeithr. Bu yn aelod defnyddiol yn y Golynos am ddeugain mlynedd, a'i ddymuniad oedd cael ei gladdu yn y capel, yn y man íle yr oedd yn eistedd pan yn gwrando y weinidogaeth a fu yn foddion i'w ddychwelyd at yr Arglwydd. Yr.oedd Morgan John Rhys wedi cael mwy o fanteision addysg na'r rhan fwyaf o woinidogion ei oes yn y Dywysogaeth, a theimlai yn ddwys oblegid anwybodaeth y werin. Tra yr oedd Mr. Charles, o'r Bala, yn Uafurio yn galed ac yn llwyddianus gyda'r Ysgolion Sabbothol, a'r ys- golion dyddiol cylchynol yn Ngogledd Cymru, yr oedd Mr. Rhys yntau