Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ffgUlgrahm. Cyfres Newydd.] RHAGFYR, 1866. [Rhif. LX Criutjj0Ìraix, &t. YSGRIFEN BYWYD. GAN Y PAECH. W. KVANS, M.A., PBMBROKE D0CR. )AE bywyd pob dyn yn ys- ti grifen. Y mae dyn wedi ei Wjl eni i ysgrifenu. Fel y raae ^pJçS) natur i gyd mewn Uawn gwaith yn ysgriíenu ei hanes, felly dyn hefyd, a dyn yn arbenig. Mae y blaned yn myned heibio yn cael ei dylyn gan ei chysgod. Mae y creigiau sydd yn treiglo yn gadael eu holion ar y mynyddoedd, yr afon ei sianel yn y tir, yr anifail ei esgyrn yn y gareg, y ddalen ei beddargraff gostyngedig yn y glo. Mae y dyferyn syrthiedig yn gwneyd ei gerfiad yu y gareg neu'r tywod. Nid oes yr un cam i'r eira neu rew ar hyd y llawr nad yw yn gwneyd map o'i daith mewn arwyddnodau mwy neu llai parhaus. Mae yr awyrgylch yn llawn o swn, y nefoedd o arwydd- ion, a'r ddaear o adgofion; ac y mae pob gwrthddrych yn cael ei orchuddio ag awgrymiadau sydd yn llefaru wrth bawb deallup. Felly y mae pob gweithred o eiddo dyn yn argraffu ei hun ar gof ei gyfeilliou, ac ar ei ymar- weddiad a'i wyneb ei hunan. Ein defnyddiau ysgrifenu ydynt y meddyl- iau a goleddwn, y geiriau a lefarwn,a'r gweithredoedd a gyflawnir genym. " Fy nhafod sydd bin ysgrifenydd buan," meddai y Salmydd. " Ein Nythyr ni ydych chwi," ysgrifenai Paul at y Corinthiaid, " yn ysgrifen- edig yn ein calonau, yr liwn a ddeallir ac a ddarllenir gan bob dyn. Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych,wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid ag ingc ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau ceryg, eithr mewn 3d llechau cnawdol y galon." Wele, ynte, y mae Un mwy na dyn yn ymarfer ag ysgrifenu, sef yr Hwn a ysgrifenodd bethau chwerwou yn erbyn Job, yr Hwn sydd wedi ysgrifenu rhif ein dyddiau ni ar y ddaear, yr Hwn sydd yn ysgrifenu ei gyfraith yn nghalonau ei bobl, yr Hwn sydd yn ysgrifenu enwau ei blant yn Llyfr Bywyd yr Oen, a'r Hwn sydd yn cofnodi yn llyfr mawr y cyfrif—y llyfr sydd wedi ei selio a saith sêl, yr hwn nis gall neb ei agor ond y Mab yn unig —holl am- canion ac ymarweddiad dyn. Ar ddelw y Bod Mawr hwn y crewyd dyn. Am hyny, naturiol ydyw ei fod yntau hefyd yn ysgrifenu yn barhaus, ac yn ysgrifenu llythyrau hefyd ag ysgrifell ei ysbryd, â phin ei dafod, ac ag ingc ei weithredoedd. Yn ddiau ar orpheniad pob cyflawniad o'n heiddom, gallwn yn briodol ddefnyddio geiriau Pontius Pilat mewn perthynas i'r titl a ysgrif- enodd efe ar y groes—" Yr hyn a ysgrifenais a ysgrifenais." Y raae cyfatebiaeth darawiadol a chyflawn rhwng bywyd ac ysgrifui yn wir : onid ydyw llawysgrif pob dyn yn ddangoseg i'w gymeriad ? Onid i ni dalu ond ychydig o sylw, yr ydym yn sicr o gyrhaedd gradd o lwyddiant mewn darllen carictor yn y ffordd yma. Gwir fod amryw o ystyriaethau ag sydd yn agweddu y rheol hon ; megys gradd a math yr addysg a dderbyniodd yr ysgrifenydd yn moreu ei oes, am- gylchiadau presenol ei fywyd, a natur ei orchwylion cyffredin. Eto gellìr ei hystyried fel rheol gyffredinoi fod