Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CjItjjgrẃtL Cyfres Newydd.] TACHWEDD, 1866. [Rhif. LIX Cra£%!to, ẃr. Y DDYLEDSWYDD A'R FRAINT O HYFFORDDI Y PLANT A'R GENEDL IEUAINC, YN ADDYSG AC ATHRAWIAETH YR ARGLWYDD. GAN Y PARCH D. HÜGHES, (GYNT CROSS INN.) nesaf )AE y ddyledswydd bwyeig hon yn perthyn i'r rhieni, sef y rhieni naturiol, y rhai agosaf, yn gyntaf ac yn benaf; ac yn hyny, i rieni mewn ystyr eg- lwysig; megys gweinidogion, blaenor- iaid, ac athrawon. Ni agawn yn y llecyntaf gynyg profi y ddyledswydd a'r fraint hon o'r Gair santaidd. Mae y pumed gorchymyn yn cynwys nid yn unig ddyledswydd y plant tuag at eu rhieni; ond hefyd dyledswydd y rbieni tuag at eu plant. Mae y cysylltiad perthynasol agos ac anwyl sydd rhwng rbieni a'u plaint, yn sail i'r rhwymedigaeth sydd arnynt tuag atynt. Mae gofal eu plant yn gorphwys yn gwbl ar eu rhieni, tra yn eu mabandod a'u hienenctyd, am eu cynaliaeth, ac am eu holl ymddyg- jadau yn y byd; rhaid gan hyny eu bod tan rwymedigaeth i wneuthur eu goreu drostynt ac iddynt; fel y maent yn berchenogion ar eneidiau anfarwol, gyda golwg ar eu hiachawdwriaeth dragywyddol. Mae yr Arglwydd trwy Moses yn gorchymyn i Israel: "A bydded y geiriau hyn yn dy galon; a hysbysa, jjeu hoga, hwynt i'th blant; a chry- hwyll am dauynt pau eisteddych yn dy aŷ, a phan gerddych ar y ffordd, aphan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu.'' « Canys Efe a sicrhaodd dyst- loiaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith 7» Israel, y rhai a orchymynodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant; fel y gwyb yddai yr oes a ddel, sef y plant a enid a phan gyfodent y mynegent hwy i'w plant hwythau." Deut. vi. 6, 7, a Psalm lxxviii. 5} 6. Mae Solomon yn llyfr y Diarhebion, pen. xxii. 6, yn gorchymyn i bob person megys ar ei ben ei hun; " Hy- fforddia blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy a hi." ;< Train up a child in the way he should go" hyny yw, ei ddwyn i fynu o râdd i râdd, yn y ffordd y dylai fyned; sef yn ffordd y gwirionedd yn ddiau. Ac y mae'r Apostol yn gorchy- myn i dadau : " Na yrwch eich plant i ddigio—na chyffrowch eich plant fel na ddigalonont—ond maethwch hwynt yuaddysgac athrawiaeth yr Arglwydd." Eph. vi. 4 ; Col. iii. 21. Fe brofir y ddyledswydd hon hefyd trwy siamplau y duwiolion, yn mhob oes o'r dechreuad. Trwy waith y rhieni yn addysgu eu plant y dygwyd yr wybodaeth am Dduw a gwir grefydd yn mla9n yn y byd, yn yr oes Batriarchaidd, o Adda hyd Moses, cyn bod un ran o'r gyfrol ysbrydoledig. Y penteulu oedd i fod yn brophwyd, yn offeiriad, ac yn frenin yn ei deulu. Mae yr Arglwydd ei hun yn tystiol- aethu am Abraham, gan ei ganmol. " Mi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol,gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gaa wneuthur cyfiawnder a barn; fel y 2 Y