Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CgídjjjratoìL Cyfres Newydd.] HYDEEF, 186G. [Ehif. LYIII. mt &t. NATÜR EGLWYS. Gan y Paech. G. Williams, Tyddewi. MAE y gair Egíwys yn un o'r lluaws geiriau ag y mae Cristion- %U& ogaeth wedi ei hanrhydeddu a'i î$q dyrchafu drwy eu defnyddio i osod allan wirioneddau uwch a meddyl- iau dyfnach nag a amlygid drwyddynt o'r blaen. Yr ydyin yn cael y gair mewn tri chysylltiad, ac yn cael ei godi yn uwch o ris i ris. 1. Yn ei ystyr wladol neu Baganaidd, fel ei defnyddid gan y Groegiaid. 2. Yn ei ystyr Iuddewig, fel ei def- nyddir 'gan y LXX yn eu cyfieithiad o'r Hen Destament. 3. Ynei ystyr Gristionogol, fel ei defnyddir yn y Testament Newydd. Yn y Testament Newydd fe'i def nyddir weithiau am un gangen o' r eglwys, megys yr eglwys yn Jerusaleni, Antiochia, neu yn Corinth, <fec, &c. Bryd arall, am yr eglwys weledig ar y ddaear. Bryd arall am yr holl eglwys ddirgeledig, yn y nefoedd a'r ddaear; neu y dyrfa a fydd yn gadwedig yn y diwedd. Yr eglwya wedi ei galw allan o'r byd. Nid Esgobyddiaeth, na Chynulleid- f'aeth, (esgusoder y gair, y mae gymaint tawddach i'w arfer na chynulleidfa- olaeth !) na Phresbyteriaeth, sydd yn gtoneyd eglwys. Gall, ac y mae, yr eglwys yn hanfodi dan y naill neu y Hall o'r ffurfiau hyn ; ac ar y llaw arall, gall hanfodi heb yr un o honynt. Nid yr uu o'r rhai hyn yw yr eglwys, ac nid yr un o'r rhai hyn sydd yn cyfansoddi" Natur Eglwys." Nat- ur neu ffurfflly wodraeth egiwysig yw 2 T y rbai hyn, ac er mor dda sydd genyni am y naill neu y llall o honynt, yr ydym yn gorfod teimlo fod yr eglwys ei hun yn uwch na'r un o honynt, neu yr oll o honynt. Y mae y dyn hwnw yn fwy medrus na'r un awelsom eto, a fedr brofi uwch- law i bobamheuaeth, fod y naill neu y llall o'r ffurfiau hyn wedi ei gosod i lawr gan Grist a'i Apostolion fel yr unig ffurf o lywodraeth eglwysig yn mhob oes ac o dan bob amgylchiadau. Ac ar y llaw arall, y mae y dyn hwnw yn un medrus iawn a fedr brofi am y naill neu y llall o honynt nad oes dim yn debyg iddi yn y Testament Newydd a'r Eglwys Apostolaidd. Na, y mae yno ry wbeth ag y gall pleidwyr y tair ffurf yma ei gymeryd fel sylfaen i osod i lawr arni eu hadeilad .dewisol eu hun, a chamgyraerant yn fawr pan ddywed- ant nad oes yno ddim oll i'w cymydog- ion i wneyd defnydd o hono i'r un pwrpas. Os felly y mae, y mae y gofyniad yn cyfodi yn naturiol, a fwriadwyd gan Grist i'r tair ffurf fod mewn ymarfer- iad ? Neu ynte, a ydyw yn bosibl i'r tair ffurf gael eu huno, a'u dwyn i gyd- weithrediad yn yr un cyfansoddiad neu gyfundeb eglwysig ? Os ydyw hyn yn bosibl fe allai na fyddai yn anhawdd profi mai hono ydyw y drefn eglwysig fwyaf anghywir sydd yn glynu yn rhy lwyr a hollol wrth un o'r ffurfiau hyn, heb roddi dim lle i'r lleill; ac ar y llaw arall, mai hono ydyw yr un fwyaf