Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cîlt|gratoit> Cyfres Newydd.] AWST, 1866. [Ehif. LVL Cra*l|roìratf, &t. GWYLIWCH. " À'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch."—Maeg xiii. 37. GAN T PARCH. W. THOMAS, (Islwyn.) ;N îiy$g y profion amrywiol o ddwyfoldeb yr ysgrythyrau nid y lleiaf yw byn : fod eu cyfarwyddiadau a'u cyngbor- ion yn gymwys i bawb. I bawb yn mhob oes a phob gwlad : " yr hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi— wrth bawb." Fe all dyn wneyd llyfr i ddosbartb, ond Duwyn unig all wneyd llyfr i bawb. Fe all dyn wneyd llyfr i oes, ond Duw yn uuig all wneyd llyfr i'r oesoedd i gyd. Er fod deunaw cant o flynyddau wedi pasio er pan seliwyd y llyfr hwn, eto y mae yn newydd yn awr. Yr ydyra yn teimlo wrth ei ddarllen fel pe ddoe ei hysgrif- euwyd. Er mai i ychydig o dlodion yn ngwlad Judea y llefarwyd ei eiriau cynwysfawr, yr ydym yn teimlo fod y geiriau yn cael eu llefaru wrtbym ni heddyw. Y maent yr un mor gym- hwys i ni heddyw ag oeddynt i'r rhai oedd yn eu gwrando neu yn eu darllen er ys dros fil a haner o flynyddau yn ol. Duw yn unig allasai wneyd Uyfr felly. Y Gair yn y cnawd yn unig all roi cyngbor i ychydig o bobl heddyw a fydd yn gymwys i bawb ddwy fil o flynyddoedd i heddyw. Y mae amser yn cyfnéwid agwedd pethau yn fawr. Gellwch wneyd llyfr rhagorol i gym- deithas beddyw, ond erbyn mil o flyn- yddoedd i heddyw ni fydd eich llyfr o un gwerth na dyben. Pe dygid allan argrafliad newydd o'ch llyfr yn mhen mil o flynyddoedd fe chwarddai y byd ai» ei ben. Fe fydd cymdeithas erbyn hyny wedi newid yn ddirfawr, ond ni fydd eich llyfr chwi wedi newid dim i gyfateb i hyny. Fe fydd yn wrthun —yn anghysondeb perffaith. Ond dyma lyfr nad yw mil o flynyddoedd yn gwneyd un cyfnewidiad ynddo o ran ei gyfaddasder i gymdeithas ; nid yw y chwyldroadau mwyaf mewn cym- deithas yn dirymu yr un o'i wersi, nac yn gwneyd yr un o'i h/fforddiadau moesol yn anghymwys i'r oes. Y maa y Beibl yn cadw i fynu â'r oes o hyd— ie, o flaen yr oes bob amser, ac y mae pob cynydd mewn gwareiddiad yn syrthio yn annhraethol fyr o gyrhaedd ei safon o foesoldeb. Y mae o'r blaen o hyd, nid o'r ol. Llawer o son sydd am gynydd gwareiddiad, ac am y rnarch of intellect, ond y maent yn methu out-marcho y Beibl. Nid yn yn unig y mae yn cadw i fynu â hwynt, ond e/e sydd yn eu harwain a'u llyw- odraetliu. Efe yw y prif allu arwein- iol yn mhob mudiad a phob sefydliad ag sydd er lles a dyrchafiad yr hil ddynol. Y mae yn para i ddywedyd, ac i ddywedyd wrth bawb. Y mae cyfaddasder yn ei eiriau, ac awdurdod tragywyddol. Nid llyfr oes yw y Beibl, ond Uyfr amser; nid aiff allan o ddate byth, oblegid nid yn unig Efe yw Uyfr amser, ond Efe yw llyfr tragywyddoldeb. Ei foesoldeb ef fydd moesoldeb y drydedd nef. Bod yn ogyfuwch a'i safon foesol ef, hyny fydd perffeithrwydd y gwared- igion yn y gogoniatít fry ; a'i athraw- 2 j