Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(%U|j$ratoîL Cyfres Newydd."] GOEPHENAF, 1866. [Ehif. LV. Cractbüìmir, #r. CYFNOD DYRCHAFIAD YR ARGLWYDD IESÜ I GAEL EI HYNODI MEWN MODD ARBENIG A THYWALLTIAD O'R YSBRYD GLAN. GAN Y PARCH. JEREMIAH DAVIES. Pan hysbysodd yr Iesu i'w ddisgyblion auiei ymadawiad, tristwch a lanwodd eu calonau; ac i'w cymodi a'r am- gylchiad y mae yn apelio at eu cariad tuag ato : " Pe carech fi chwi a lawen- haech am i mi ddywedyd, Yr wyf fi yn myned at fy Nhad, canys y mae fy Nhad yu fwy na myfi ;" Pe byddai eich cariad tuag ataf yn gyson a goleu- edig, chwi a lawenhaech am fy mod yn myned at fy Nhad, canys y mae fy mynediad yno yn ddyrchafiad i mi i sefyllfa uwch, i fwynhau gogoniant a dedwyddwch uwch na'r hyn sydd yn perthyn i mi ar y ddaear. Wrth ddyfod i'r byd fe ymddiosgodd o'r gogoniant oedd iddo gyda y Tad cyn bod y byd. Ei sefyllfa ar y ddaear oedd anmharch, tlodi, a dyoddefiadau; ac os oedd y dysgyblion yn ei garu, rhaid eu bod yn cydymdeimlo ag ef yn ei ddyoddefiadau, ac yn llaweuhau am ei fod i gael ei waredu yn fuan alian o honynt, a'i ddyrchafu i sefyllfa annhraethol ogoneddus ar ddeheulaw Duw. Yr oedd ei Dad yn fwy nag ef, hyny yw, mewn gogoniant uwch nag oedd ef ar y ddaear, i'r hwn ogoniact yr oedd yr Iesu yn myned pan yn gadael y ddaear i fyned at ei Dad. Yr oedd y cyfnewidiad hwn i'r Iesu yn gyfnewid- iad o sefyllfa isel i sefyllfa uchel, o warth i ogoniant, o ddyoddef i dded- wyddwch cyflawn y nefoedd. Onid ydych chwi yn llawenhau wrth feddwl fod yr lesu wedi ei waredu allan oi holl ddyoddefiadau, a'i draddyrchafu 2e. ar ddeheulaw Duw, a derbyn enw yr hwn sydd goruwch pob enw. NÌ8 gellwch anghofio ei ddyoddefiadau ar y ddaear, ond yr ydych yn llawenhau am nad ydyw i ddyoddef mwy. Dyma ddefnydd cysur a dedwyddwch i gan- lynwyr Crist, eì fod ef wedi ei draddyr- chafu i ddeheulaw Duw, a phob gallu a llywodraeth yn ei law ef. Mewn canlyniad i ymostyngiad a dyoddefiadau Crist, Duw a'i tra-dyr- chafodd yntau, ac a roddesiddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw, fel yn enw'r Iesu y plygai pob glin—nefolion, daearolion, a than-ddaearolion bethau. Yr oedd y dyrchafiad hwn ar Grist yn dwyngydagef allumwy a gogoneddus- ach yn y gwaith o achub ei bobl, a dwyn yn y blaen amgylchiadau ei Deyrnas Gyfryngol. Yr oedd ei waith fel Cyfryngwr yn annesgrifiadwy o bwysig, a gallasai ei ddwyn yn y blaen yn well yn y Uŷs fry nac ar y ddaear; yn well ar ei orsedd nac ar ei ystol draed. Y ddaear oedd y lle iddo ddyoddef a marw dros bechodau, ond y nefoedd yw y lle iddo deyrnasu ac ymarfer ei allu a'i drugaredd yn iachawdwriaeth gyflawn ei bobl; yr oedd y ddaear yma yn lle cymwys iddo ymgymeryd a'r gwaith o gadw yr hyn a gollasid; ond i ymar- fer ei allu fel Arglwydd pawb oll, yr oedd yn rhaid iddo gael helaethach lle a sefyllfa uwch nac y gallasai y ddaear fForddio. Felly nid dyflyg cariad at ei ddysgyblion oedd yu peri iddo eu Na, pell yr oedd oddiwrth