Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cjk|gratoîL Cyfres Newydd.] MEHEFLN, 1866. [Rhip. LIV. Crat%ìra:it, &t. CARÜ IACHAWDWRIAETH DUW. GAN Y PARCII. T. EEES, CRUGHYWEL. Mae pawb a achubir i fywyd tragy- wyddol, ac a fyddant yn gadwedig byth, nid yn unig yn cymeradwyo iachawd- wriaeth Duw, ond yn syrthio mewn cariad dwfn â hi. Y maent nid yn unig yn ei derbyn ac yn ei defnyddio yn ngwyneb eu hangen am dani, fel yr unig drefn sydd yn ateb eu hamgylch- iad yn hollol, eithr y mae heblaw hyn wrth eu hodd yn fawr, yn enyn ac yn enill eu serch. Na, nid gorfod yn anewyllysgar i foddloni iddi y maent, oblegid nad oes yr un dewisiad wedi ei adael iddynt, gan nad oes yr un arall i gael, eithr y mae eu mynwesau yn Hawn cariad ati, ar dân gan gariad ati. Y mae yn wrthddrych eu mhawrygiad dwfn, diderfyn, yn galw allan eu hoffder pur, angerddol. Maent yn caru Duw am dani, bid siwr, ond nid ydynt yn ddiserch neu ddifater tuag ati hi ei hun. Pan y maent dan ei dylanwad adferol yn ymhyfrydu yn fywiogadiolchgar yn Nuw eu hiachawd- wriaeth, nid ydynt yn edrych heibio iddi hi ei hun yn ddiystyr,—nis gall- ant; Jac nid yw yr olwg arni yn ddi- effaith arnynt. Y maent yn ymgylymu wrthi yn agos iawn. Mae yn dda anghyffredin ganddynt am dani. Mae rhyw ^swyn rhyfeddol ynddi iddynt, sydd yn myned a'u calon, ac yn peri ìddynt ymserchu ynddi. Mae hyn oll yn ffaith ddiddadl, a wirir yn ddigonol gan dystiolaeth eglur a phendant yr ysgrythyr, a phrotìad duwiolion. Nid yw chwaith yn beth i synu ato mewn un modd, eithr yn beth hawdd rhoddi cyfrif boddhaol am dano. Y mae yu ffrwyth naturiol, angenrheidiol, cyfran- ogi o gyflawnder ei bendith. Nis gellir bod yn ei gafael, a phrofì ei rhinwedd fendigedig, heb deimlo yn anwyl iawn tuag ati. Y mae hyn yn nôd ac yn brawf anffaeledig ein bod yn etifeddion o honi. Heb hyn nid oes i ni na rhan na chyfran ynddi. Mae hyn yn dal yn wir o'r dechreu- ad gyda golwg ar grefydd bur dan bob goruchwyliaeth. Mae y Salmydd yn ei yngan yn groyw yn y geiriau, *' y rhai a garant dy iachawdwriaeth." Ac y mae yn nglyn a gwir grefydd o hyd, a bydd yn anwahanol gysylltiedig a hi, nid yn unig ddyddiau y ddaear, eithr oesau tragywyddoldeb. Gellir dywed- yd o berthynas i hyn, " megys yr oedd yn y dechreuad, y mae yr awr hon, ac y bydd yn oesoesoedd." Mae rhyw bethau cysylltiedig a bod yn dduwiol yn y byd hwn yn ddarostyngedig i ddeddf gyffredinol cyfnewidiad, sydd yn treiddio trwy y cwbl. Nid ydynt yn aros yn hir yr un fath. Ond y mae hyn yn glynu wrthi, ac yn parhau yn ei lawn rym trwy y cwbl; ac fe bery hyn hefyd heb effeithio dim arno, oddieithr ei gynyddu. Yr oedd Uawer o bethau ni a wyddom yn perthyn yn agos, ie, yn llwyr anhebgorol i fodol- aeth a llwydd gwir grefydd dan yr hen oruchwyliaeth, nad ydynt felly mwyach. Yn wir, byddai yn bechod iddynt fod mewn gweithrediad yn bresenol. Maent yn gwbl groes i'r efengyl, ao yn ei dymchweled hi. Hyd amser y