Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ẁldjgratoiL Cyfres Newydd.] EBRILL, 1866. [Rhip. LII. Cmilmto, ŵr, YR EGLWYS YN BYW AC YN CYNYDDÜ YN Y BYD TRWY FARW. GAN Y PARCH. J. DAYIES, CASTBLL HENRY. §YD y marwolaethau ydyw y ddaear. Gosodwyd i bob peth. sydd yn meddu bywyd yn ein byd ni i farw mewn rhy w ystyr. Teyrnasa marwolaeth yma o'r bywyd iselaf hyd yr uwchaf. Gellir dyweyd yn ei berthynas â'n byd ni, nid yn unig, Pa wr a fydd byw, ac ni wel farwolaeth ? ond, hefyd, Pa lysieuyn, anifail, <fcc, a fyddant byw ac ni welant farwolaeth ? Pan aeth bywyd dyn yn ysglyfaeth i farwolaeth, syrthiodd pob bywyd ar y ddaear i afael rhyw fath o farwolaeth, hwyrach, ar yr un adeg, a thrwy syrthiad y dyn; ac yn awr, teyrnasa marwolaeth o Adda hyd yn bresenol; ie, ar lawer o wrthddrychau y rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth camwedd Adda, heblaw y babanod ; ac mor llawn o farwolaeth aeth y ddaear trwy bechod, nes y methodd Mab Duw a byw yma heb brofi marwolaeth. Ac er fod yma fywydau, eto bywydau o, ac ar farwolaeth ydynt. Ni a gawn Iesu Grist yn dangos y gwirionedd hwn, ragor nag nnwaith, yn ei ddysgeidìaeth pan ar y ddaear. Dangosa ef unwaith pan yn ymddy- ddan â Phedr, wedi i'r dysgybl brwd- frydig hwnw ei geryddu Ef, am ei fod yn dyweyd y buasai iddo fyned i Je- rusalem i ddyoddef a marw. Ar yr achlysur hwn awgryma i Pedr, pe buasai ei syniadau yn ddigon dwfn ac ysbrydol, y buasai yn deall mai ffordd y groes oedd ffordd y goron i Grist; mai trwy iddo ddyoddef y pethau hyny yr oedd iddo Ef i fyned i ogon- lant; ac mai trwy iddo farw mewn gwarth ar y groes yn Jerusalem, yv oedd iddo fyw byth mewn gogoniant yn y nefoedd. Ac wedi gwneyd yr awgrymiadau hyn gyda golwg arno ei hun, yn mlaen â i ddangos fod yr eg- wyddor yn gymwysiadol at ei ddys- gyblion hefyd. " Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddysgyblion,'' medd yr efengylwr, " os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dylyned fi. Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll; a phwy bynag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff." Rhaid i chwithau, fy nysgyblion i hefyd, fel pe dywedasai Crist, wybod am ffordd y groes er cyrhaedd y gorou; rhaid i chwi fyned i lawr os ydych yn meddwl myned i'r lan; rhaid i chwithau golH eich bywyd os ydych yn ewyllysio cael eich bywyd. Ar actilysur arall cawn Ef yn egluro y gwirionedd hwn, trwy y gymhariaeth o ronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear a marw. " Yn wir, yn wir, meddaf i chwi," eb Efe, " oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, hwnw a erys yn unig ; eithr ^ os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer." Amcan blaenaf y ddameg hon yn ddiau yw, dangos ei farwolaeth Ef ei hun, yn ei nhatur a'i heffeithiau gogoneddus. Ond a yn mlaen y tro hwn eto i ddangos fodyrhyn addywed am dano ei hun yn wirionedd, ar raddfa lai, am ei ganlynwyr hefyd. Dwg yma i'r goleuni egwyddor fawr a chyff- redinol. Dengys, trwy y ddameg hon, rywbeth mwy na dameg—dengys yma ddeddf gyffredinol, yr hon, mae yn