Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<ffgU|0raton. Cyfres Newydd.] MAWRTH, 1866. [Bhif. LI. Crtóljoìmit, #r* DEILIAID BEDYDD, GAN YPARCH. D. HOWELLS, ABERTAWY. \A£3- YFARFYDDIR â'r gair dysgybl %\$$ yn arul yn y Testaraent New- (^nÉ/ y^> mae yn arwyddo cred- á^cá? adyn, Cristion, canlynwr i Iesu Grist, yn yr Efengylau. Yn gyffredin arwydda yr apostolion, y rbai a ddysg- asant gan Iesu Grist fel eu Hathraw; ond yn yr Actau a'r Epistolau, can- lynwr Iesu Grist, yr hwn sydd am ei ddysgu yn y gwirionedd am dano, a bod yn ganlynwr iddo. Yn ol y desgrifiad uchod, mae yr holl rai sydd yn cael eu galw trwy yr efengyl, ac yn gwneyd proffes o enw yr Arglwydd, yn ddysgyblion iddo, ac felly yn aelodau egíwysig ; felly y mae yr holl aelodau i'w bedyddio : Actau 8. 12, 36, 37, " Eithr pan gredasant i Phylip, yn pregethu y pethau a berthyuant i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, ya wỳr ac yn wragedd. Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaeth- ant at ryw ddwfr. A'r eunuch a ddy- wedodd, Wele ddwfr ; beth sydd yn lluddias fy medyddio ? A Phylip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu à'th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw." Y mae plant credinwyr (neu bro- ffe3wyr) yn caol y fraint o fod yn aelodau eglwysig dan bob goruchwyl- iaeth, er dechreuad y byd; os felly y maenfc yn ddeiliaid bedydd. Yr oedd plant yn meddu y fraiut hon yn nheulu Adda, yr eglwys gyntaf a fu yn y byd. Rhoddir hanes genedigaeth Cain ac Abel yn Genesis 4. Y peth cyntaf ddywedir am danynt, ar ol rhoddi haues eu genedigaeth, ydyw eu bod yn aberthu i'r Arglwydd, yr hyn sydd yn dangos iddynt gaei eu dysgu o'u mebyd i addoli Duw fel aelodau eglwysig : Gen. 4. 1—5 : " Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: ac hi a feich- iogodd ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais wr gan yr Argl- wydd. A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaear. A bu wedi talm o ddyddiau i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r Arglwydd. Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u brasder hwynt. A'r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm : ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef." Pan y dywedir fod Cain wedi myned " allan o wydd yr Argl- wydd," meddylir ei fod wedi gadael y lle yr oeddynt yn addoli, yr hyn yn yr oesoedd hyny a elwid gwydd yr Argl- wydd, Gen. 4.16. Colloddei hiliogaeth y fraint trŵy ei bechod ef; y rhai a elwir yn " ferched dynion " yn Gen. 6. 4. Canlynwyr Cain ydyw holl blant proffeswyr sydd yn gadael yr eglwys, ac yn myned i'r byd; am hyny rhoddir gocheliad dwys yn Judas 11, i ochel y ffordd hono. Yr oedd plant yn meddu y fraint o