Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ ŵjldjgrẃn. Cyfres Newydd.] CHWEFEOR, 1866. [Ehif. XLX. Cracíljüìtíiit, ẃr. DALEN O'M DYDD-LYFR, GAN Y PARCH. D. EDWARDS, BRYNMAWR. tERUSALEM, Mai laf, 1860. Neithiwr gorwecidais i gysgu yn Ngoruwchystafell y Mediter- ranean Hotel, ar fynydd Sion. Pan ddihunais boreu heddyw, methwn yn lan a gwneyd allan pa le yr oeddwn. Beth, meddwn, dan rwbio fy llygaid, y w yr ystafell ddyeithr hon ? Muriau moelion, llawr noeth, ffenestr ddellt ddiwydr, a'r haul yn pelydru trwyddi, rhwydwaith o amgylch y gwely i'm cadw rhag ymosodiadau y musketoes. Yn ddigon siwr yr wyf yn Jerusalem. Mewn canlyniad i ddarllen a myfyrio am wlad Canaan breuddwydiais fy mod ynddi lawer gwaith o'r blaen, ond nid breuddwydio yr wyf heddyw, yr wyf mewn gwirionedd yn ninas Jerusalem. Cychwynais i'm taith fis i ddoe, daeth- um gyda'r Railway dros Ffrainc, mor- dwyais i Alexandria, bum yn Cairo fawr, dringais i ben y Pyramid, daeth- um arhyd y mor i Jaffa. Echnos cysg- ais yn y fonachlog Babaiddyn Ramle; ddoe marchogaÌ8 y ceffyl Arabaidd a ddringai fel cath î fyuu ar hyd hen lwybrau caregog bryniau llethrog Judea; neithìwr cyrhaeddais yma, trwy diriondeb rhagluniaeth y nef yr wyf heddyw yn ddyogel o fewn i gaerau hen ddinas Dafydd. Codaf yn ddioedi, af allan i weled y ddinas, amgylchaf ei muiiau, syllaf ar ei hadeiladau, ym- welaf â'i lleoedd cysegredig. Beddyw caf rodio yr hen lwybr yr arferai fy mendigedig Waredwr ei deithio mor fynych o Jerusalemi Bethania. Felly, wedi plygu ar fy ngliniau o flaen Tad y trugareddau, yr hwn a ddewisodd Sion yn lle preswylfa ei ogoniant, troais allan o'm hystafell, ac esgynais ar hyd y grisiau ceryg i nen y tŷ. Oddiyma gwelaf y rhan fwyaf o'r ddinas, a llawer o'r wlad o amgylch. Wele, dyma Jerusalem, dinas yBrenin mawr, Salem Melchisedec, Jebus y Jebusiaid, y ddinas y bu Dafydd mab Jesse yn canu ei Salmau, a Soloman ei fab yn ysgrifeuu ei Ddiarhebion. Draw acw ar y bryn bychan sydd yn nghwr eithaf y ddinas, o du'r dwyrain, y safai y Deml gynt, ac ynddi y pelydrai dysgleirdeb gogoniant Jehofah oddirhwng y cerubiaid uwchben y drugareddfa; yno y cymerth yr hen Simeon dduwiol y baban Iesu yn ei freichinu; ao yno, pan yn ddeuddeg mlwydd oed, yr eisteddodd yr Iesu yn nghanol y doctoriaid i wrando arnynt a'u holi hwynt. Dacw'r fan y bu ef yn pregethu, yn dymchwelyd byrddau y newidwyr arian, ac yn llefain ar ddydd mawr yr wyl, " Od oes ar neb syched deued ataf fi ac yfed." Yn rhyw le gerllaw i'r fan lle yr wyf yn awr yn sefyll yr oedd yr oruwchystafell lle y bwytaodd yr Iesu y Pasg olaf gyda'i ddysgyblion, lle ygolchodd eu traed, ac yr ordeiniodd y Swper Santaidd. I lawr ffordd acw yr aeth efe gyda'i ddysgyblion dros afon Cedron i ardd Gethsemane. Mae lle yr ardd yn sicr o fod yn rhwyle ar ael yr Olewydd acw, ychydig fe allai uwchlaw y ffordd a welaf yn arwain tua Bethania. >Ŵd pa le mae Calfaria ? Dyma Egljrys y bedd santaidd, yr hon y dyweÌpr ei bod yn gorchuddio lle y croeshoeliad, a'r