Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ẁldnrnttoiL V5 o v Cyfres Newydd.] HYDEEF, 1865. [Ehif. XLYI. CraeíIj0Ìrau a öSüíjetóacíIjau* TY FY NHAD. " Yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfanau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwí. Yr wyf fi yn myned i barotoi lle i chwi. Ac os myfi a af ac a barotoaf le i chwi, mí a ddeuaf drachefh, ac a'ch cymei-af chwi ataf fy hun: fel llo yr wyf fi y byddoch cliAvithau hefyd." Ioan xiv. 2, 3. GAN Y FARCH. W. THOMAS (lSLW7N). Wrth ddarllen hanes y Cristionogion cyntaf, gwelir ar unwaith fod ynddynt deimlad cryf o ymlyniad wrth berson y Gwaredwr. Fod yno gariad personol cryf yn mhob enaid tuag ato. Golyg- feydd o gariad yw y golygfeydd ar Grist a'i ddisgyblion. Y mae Ioan yn pwyso ar ei fynwes. Y mae Pedr yn dyweyd, " Mi a roddaf fy einioes dros- ot." A phan y mae yn gofyn iddynt, "A fynwch chwithau hefyd fyned ymaith ?" maent oll yn ateb, " At bwy yr awn ni ?" Nid parch oedd y teiml- ad hwn, ond cariad, a chariad personol a nerthol. " Ti a wyddost fy mod yn dy garu di." Y teùülad hwn ydyw enaid crefydd, ac yn nerth y teimlad hwn y gwneir gwroldeb dros achos Crist. Y cariad hwn oedd yn eu galluogi i ddyoddef erledigaeth a gwawd, gydag amynedd a gorfoledd. Nid oes dim mor wrthwynebus i gariad â'r meddwl am ysgariad oddi- wrth ei wrthddrych, ymadawiad ei wrthddrych. Mae y Person a garent uwchlaw pawb wedi dyferu rhyw air ûeu ddau yn y benod o'r blaen: " O blant bychain, eto yr wyf enyd bychan gyda chwi," dim ond enyd—enyd uychan —yr ydwyf ar ün ymadael. " Chwi a'm ceisiwch : ac megys y dy- wedais wrth yr Iuddewon, " Lle yr wyf fì yn myned ni ellwch chwi ddyfod, yr ydwyf yn dywedyd wrthych ehwithau hefyd yr awrhon." Yr oedd yr aw- grymiadau hyn at ei ymadawiad wedi creu ynddynt brudd-der dwys. Ac yr oedd amryw bethau ereill, heblaw yr hysbysiad hwn, yn tueddu i ddyfn- hau eu prudd-der. Dyna un peth ; yr oeddynt newydd gyfranogi o'r Swper Santaidd, ac yr oedd y Swper wedi eu cyfleu megys yn nghanol ei ddyoddef- iadau. Dyna beth arall, yr oedd wedi dyweyd y gwnai un o honynt ei frad- ychu; dyna beth arall, Pedr, y gwr- olaf o honynt, wedi ei dristâu yn cídir- fawr, trwy y geiriau, " Ni chàn y ceil- iog," <fec. Dyma'r olwg bruddaidd oedd arnyiit pan lefarwyd y geiriau hyn. Mae rhai yn meddwl nad oedd y dysgyhlion y pryd hwn yn deall ar- wyddocad y Swper Santaidd yn glir, Nid oeddynt eto yn deall y byddai i'w Harglwydd farw o farwolaeth boenus a chreulawn, y byddai i'w gorff gael ei ddryllio, a'i waed ei dywallt fel y dau- gosid yn y Swper. Beth bynag am hyny, os nad oeddynt yn deall y Swper Santaidd, mae'n amlwg eu bod yn deall un peth, sef ei fod ar ymadael oddiwrthynt. Yr oedd wedi siarad mor eglur am hyn, fel nas gallent gamddeaìl. Mae'n amlwg ei fod ya 2 K