Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵglcljgraton. Cyfres Newydd.] AWST, 1865. [Riiif. XLIin. Cradljüb^í e ẁfreHtóljatL " ANCHWILIADWY OLUD CPJST."—Paul. Urddas personol, ardderchawgrwydd inoesol, a gogoniant swyddol y Messiah, ydynt destynau uchelfawr yr oraclau bywiol. Pan byddom yn aincanu dan- gos urddas personol y Messiah, byddwn yn dwyn yn mlaen y f ath enwau ag Emmanuel, unig-genedledig Fod, Mab Duw, (fec. Pan fyddo ei ardderchawg- rwydd moesol fel Mab Mair yn destya genym, byddwn yn sylwi ar ei eiriau a'i weithredoedd fel y maent wedi eu cofnodi gan y pedwar Efengylwr. Pan fyddo ei ogoniant swyddol, fel yr unig Gjyfryngwr rhwng Duw a dynion, i gael ei ddadlenu o flaen ein golwg, yna byddwn yn meddwl am yr holí bro- fi'wydi, yr offeiriaid, a'r breninoedd y sonir am daaynt yn yr Hen Destament; ac yn son am dano fel Proffwyd yr holl oroffwydi, Archoffeiriad yr holl archo- ffeiriaid, a Brenin yr holl freninoedd. Ond pan byddom yn cael golwg ar ei feddianau, ei etifeddiaeth, a gogoniant eiymerodraeth, byddwn yn dethol y fath ymadroddion a'r rhai canlynol: ~~- Canys trwyddo ef y crewyd pob dira a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear ; yn weledig, ac yn anweledig ; Pa un bynag ai thronau, ai arglwydd- laethau, ai tywysogaethau, ai medd- lanau ; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.'> Yr hwn a wnaeth efe p etifedd pob peth, trwy yr hwn pyd y gwnaeth efe y bydoedd." Yr ûwn ac efe yn ddysgleirdeb ei ogoniant »ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cyüal pob peth drwy air nerth; wedi ei puro ein pechodau ni trwyddo ef eí hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwchleoedd." "Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef, a'r angelion, ar awdur- dodau, a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo." Rhaid i ni ffurfio ein syniadau am helaethrwydd a gwerth etifeddiaeth y Gwaredwr oddiwrth yr hyn a ddar- llenwn yn y Bibl, ac a welwn yn y greadigaeth ddefnyddiadol; ac yn wir, y mae undeb agos ac annatodol rhwng y Bibl a gwyddawr, rhwng y wybod- aeth Fiblaidd a'r wybodaeth gyrhaeddir drwy gymhwyso ein meddyliau at weithredoedd Duw fel yr arddangosir hwynt yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn y tir ac yn y mor, yn hyd a lled teyrnas- oedd mwnyddol, llysieuol, ac anifeil- aidd natur. Mae y gwyddorion hyn yn esbonio y Bibl; a pha ddyfnaf y deallom y naill, mwyaf y gwerthfawr- ogwn y llall; oblegid nid yw holl ddadleniadau natur ond gweithrediad v cynlluniau a'r bwriadauoedd yn meddwl a chynghor Jehofa er tragywyddoldeb. Ni ddylai efrydiaeth ar natur a chref- ydd, gan hyny, byth gael eu gwalianu; ond fei dau gymhar priodedig, dylent fyned law yn llaw i byrth anfarwoldeb. Yn awr, i'r dyben i gael golwg mor gynwysfawr ag a allom ar olud neu gyfoeth y Gwaredwr, sylwn yn— I. Ar ei olud yn y byd defnyddiadol. II. Ei olud yn y byd deallawl a moesoi. III- Ei olud yn ei ras a'i drugaredd. 3 B