Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ẁldjgrẃîL Cyfres Newydd.] EBRILL, 1865. [Ehif. XL. Craetljüìnw a (Ìnljtbmeííjait. ATHRAWIAETH Y GAIR (LOGOS) YN OL IOAN. GAìí Y PARCH. J. H. JOXES, M.A., PH.D. Y mae yn gwestiwn dyddorol, i ba un y raae gwahanol atebion yn cael ei roddi, Pa fodd yr aeth Ioan i osod alian Fab Duw, o dan yr enw Gair. Pahain y dewisodd neu y sefydlodd ar y drych- feddwl hwn, yn hytrach na rhyw un arall? Y mae yrefengylwr yn cymeryd yn ganiataol fod ei ddarllenwyr yn gyf- arwydd â'r ymadrodd, cauys nid yw wrth ei ddwyn i mewn yn rhoddi un eglurhad ychwanegol arno. Yn ol pob tebygolrwydd yr oedd yr enw yn eithaf adnabyddus iddyut. Y mae gwahanol farnau yn nghylch yr achlysur arbenig a arweiniodd loan i'w ddwyn i mewn, a'i egluro yn mhellach yn nechreu ei efengyl. Barna rhai fod Ioau wedi benthyca y drychfeddwl, a'r enw Gair, o weithiau Philo, Iuddew dysgedig o Alexandria, yr hwn oedd yn gydoeswr a'r íesu. Y mae Philo yn cynrychioli ysgol athronyddol Iuddewig, yr hon a ffurfiwyd yn uniongyrchol o dan ddy- lanwad athroniaeth y Groegiaid. Èr mwyn taflu goleuni newydd, a dadblygu yn mhellach athrawiaeth y Gair, fe gyd- gymyagodd Philo yn helaeth syniadau ysgi'ifenwyr yr Hen Destament ar y pwnc ag egwyddorion yr athroniaeth yu mha un yr oedd yn hyddysg. Ond ya gymaint nad oedd yr elfenau gwi th- drawiadol hyn,o ran eu natur, yn medru ymdoddi i'w gilydd, y mae yn amheus pa un a oedd Philo, yn lle taflu goleu- ûi newydd ar y pwnc, yn tywyllu cyng- °* ag ymadroddion heb wybodaeth. « oedd Ioan, a nifor luosog o'i ddar- Jlenwyr, yn gyfarwydd ag athrawiaeth y Logos yn ol Philo, ac efallai i hyny fod yn un achlysur iddo i ddefnyddio yr enw Gair yn nechreu ei efengyl, er ei fod yn ymwybodol ar yr un pryd o'r gwahaniaethannhraetholyueusyniadau mewn perthynas i'r Logos, ac o'r ffaith nad oeddent braidd yn cyduno mewn dim yn ei gylch, ond yr enw. Barna ereill fod Ioan, wrth y logos, yn golygu gairDuw, yrefengyl yn ei gwrthddrych personol, yr hwn y w y Crist a bregethir. Efe yw ei chanolbwynt a'i chynwysiad, ei dechreu a'i diwedd. Pregethu gair y gwirionedd yw pregethu Crist yr efeng- yl. Y mae Crist ei hunan yn dyfod at ddynion yn y cyhoeddiad a wneir o hono yn ngweinidogaeth y Testament Newydd, ac nid yn unig gair yn traethu am y Gair sy yma, \òyoç- -rttpt tov \oyov, ac felly y dywedir ifiaGtrt, t»Krou(7are, 7rapi\aí3tTt tovXpurTov,ydysgasochGrist, chwi ei glywed ef, y derbyuiasoch Grist (Eph. 4. 20, 21 ; Col. 2. 6). Yn erbyn y syuiad hyn, y mae i sylwi na ddefnyddir y gair ò \oyo<? un amser yn y Testament Newydd i osod allan Grist fel cynwysiad y gair, ac ni ddef- nyddir gan Ioan y gair logos wrtho ei hun heb ryw chwanegiad penodol i ar- wyddo yr efengyl, fel yr ydym yn cael yn Marc yn fynych (2. 2; 4.14) ; Luc, (1.2; Act.li. 19;) Paul, (Gal.6.6 ; lThes. 1.6.) Y mae yn rhaid i ni ddylyn y drych- feddwl logos yn hanesyddol, tuag at i ni gael gafael yn y gwirionedd mewn perthynas i'w darddiad, ei arwyddocad, a'i gysylltiad yn nechreu efengyl Ioan. Y mae hanesiaeth ar unwaith yn ein