Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<í#U|grafoftv Cyfees Newydd.] MAWETH, 1865. [Ehif. XXXIX. jj «DEFAID EREILL SYDD GENYF." "A defaid ereill sydd genyf, y rhai nid ynt o'r gorlanhon; y rhai hyny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a'm llais i wrandawant; a bydd un gorlan, ao un bugail."— (pabhad.) Ioan x. 16. mae y llais hwn yn myned allan, y mae gallu dwyfol yn myned gydag ef, fel y mae yn sicr o fod yn eneithiol. Pan y mae Crist yn llefaru wrth bechadur, y mae yn llefaru fel un ag awdurdod gan- ddo. Mae "yr efengyl mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr." Mae y pechadur yn teimlo ei fod wedi ei ddal, wedi ei rwymo o'r diwedd. Pan glywodd y llais y tro cyntaf yn yr oedfa, fe dybiodd y gallai fyned yn drech nag ef. Ceisiodd ei foddi yn swn cyfeillacha\i annuwiol, yn nhwrf olwynion masnach; ond yr oedd y dwyfol lais yn rhy gryf, yr oedd yn parhau trwy y cwbl, ac yn enill nerth fwy fwy. Mae y dyn yn teimlo mai nid swn yn unig sydd yna, ond fod gallu ysbrydol anorchfygol wedi dod i gy- fFyrddiad a'i enaid. Mae yn rhwym o wrando. Canys "dydd nerth" ydyw. Y mae llais Crist trwy yr efengyl, fel llais brenin, wedi ei amgylchu gan nerthoedd ymerodraeth. Y mae llawer wedi myned yn mhell . iawn mewn caledwch ac anghrediniaeth, ond fe glywai y pellaf ei lais ef. Ië, f e glywai'r meirw lef Mab Duw. " Efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear." " Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?" Clywed ei enw yn llais Crist a wnaeth Saul yn ddyn arall am dragywyddoldeb. Nid oedd dim yn newydd i Sanl yn ei enw, nid oedd dim yn newydd iddo yn y ffaith ei fod yn erlid Crist; ond clywed hyny o enau Crist ei hun a'i gwnaeth yn gymeriad arall am byth. "TY LLAIS I A WBANDAWANT. Mae digon o rym, a digon o ddylan- wad, yn llais y Bugail i gyrhaedd y pellaf o honynt. Mae yn siarad yn nollol hyderus, fel un yn teimlo fod gauddo ddylanwad annherfynol ar y ddynoliaeth. " Rhaid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant." Cafodd hyn ei gyflawnu mewn modd gogoneddus iawn pan anfonwyd yr eferigyl at y Cenedloedd. Dangosodd y Cenedloeddbarodrwyddmawr i dderbyn yr efengyl, ac i ufyddhau i'w llais nefol. Ychydig o'r Iuddewon a gredasant yn- ddo, ondgwrandawodd y Cenedloedd ar ei lais, gan ei ddylyn wrth y miliynau. Mae hyn yn cael ei wireddu yn mhob oes o'r byd : fod dynion bob amser yn ufyddhau i'r efengyl dim ond i Grist lefaru wrthynt trwy ei ysbryd. " A'm Uais i a wrandawant." Mae llawer llais wedi seinio gair yr efengyl, ond y mae rhai wedi gallu dal yr holl leisiau hyny heb deimlo ac heb ufydd- hau; ond pebyddaii'r Bugail mawr ei hun roi ei lais allan,byddai y gwran- dawyr cyndynaf yn rhwym o wrando ac o ufyddhau. Yn ngwyneb anghred- iniaeth y gwrandawyr ac aueffeithiol- deb y weinidogaeth, dyma sydd yn gysur i egìwys Dduw, ac i genadau y gair, fod llais digon nerthol i ddeffroi y mwyaf difraw, ac nad oes gwybod pa oedfa, pa Sabboth, y rhoddir ef allan. " Fy llais i a wrandawant." 1.. Oblegid Uais gallu yclyw. Pan y