Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CgUjjgrahm, Cyfres Newydd.] CHWEFROR, 1865. [Rhif. XXXVIII. " DEFAID EREILL SYDD GENYF." " A defaid ereill sydd genyf, y rhai nid ynt o'r gorlan hon ; y rhai hyny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail."— Ioan x. 16. Mynych iawn y ceir y Gwaredwr yn ei ymadroddion yn troi oddiwrth y bychan at y mawr. Y mae yn gwneyd hyny yn yr adnod hon. Hyd yn hyn y mae wedi cyfyugu ei sylw i'r "ychydig" oedd o'i gwmpas, " y praidd bychan" oedd yn y lle o'i amgylch. Yn awr, y mae yn taflu ei olwg yn mlaen i'r amser pan fyddai ei braidd wedi myned yn fawr, trwy ddyfodiad y Cenedloedd i mewn : " A defaid ereill sydd genyf." Felly y mae yn gwneyd yn ngweddi yr eiriolaeth, "Ac nid wyf yn gweddio dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fì, trwy eu hymadrodd hwynt." A thrachefn yn yr oruwch-ystafell, "Yr hwn a dy- welltir drosoch, a thros lawer." Dech- reuai yn gyffredin gyda'r "ychydig," ond cyfeiriai fynychaf cyn gorphen at y " llawer;" elai oddiwrth " y rhai hyn" at"yrhaihefyd." Y "GORLAN HON." Lle cauedig ydyw corlan, lle neill- duedig, i gasglu defaid iddo er mwyn eu hymgeleddu a'u hamddiffyn. Yr un peth a olygir wrth " y gorlan hon," a'r hyn a elwir mewn man arall, gwladwriaeth Israel"- sef y gyfun- drefn gref yddol a gwladol hono a sefydl- ^yd trwy law Moses. Yr oedd had Abraham wedi eu casglu o fewn i'r pfundrefn hon, fel praidd o fewn cor- la& gauedig, Mwynhaent yma ragor- freintiau ysbrydol nas gwyddai byd mawr y Cenedloedd oddiallan ddim am danynt, ac yr oedd mur o amddiffyn dwyfol o'u hamgylch. Mor rhagorol oedd eu cyflwr o fewn y gorlan hon, wrth ei gydmaru â chyflwr y Cenedl- oedd : " Israel hefyd a drig ei hun yn ddyogel; ffyncn Jacob a fydd mewn tir ỳd a gwin hefyd ; ei nefoedd hefyd a ddyferant wlith. Gwynfydedig wyt, 0 Israel; pwy sydd fel tydi, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd." Yn y gorlan hon yn unig yr oedd ymgeledd addas i angenion dyn fel pechadur, oblegid yn hon yn unig yr oedd yr addewid o Grist. Dyma ogon- iant y gyfundrefn Iuddewig, dyma ei henaid a'i bywyd, fod Crist ganddi, mewn addewidion a chysgodau. Crist yw yr unig ddarpariaeth addas i bech- adur. Nid oes dim ond Crist a'i di- gona. Mae'r apostol Paul, wrth goffhau yr Ephesiaid eu bod hwy gynt wedi eu dyeithrio oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth amodau yr addewid, yn rhoi cnewyllyn eu trueni tra yn y sefyllfa hono, trwy ddweyd eu bod "y pryd hwnw heb Grist." Ac wrth roi rhifres o freintiau yr Iudd- ewon, mae yn rhoddi fel coron ar y cwbl, y cysylltiad oedd rhyngddynt â Christ, a'u hawl ynddo: "Eiddo y rhai yw y mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a'r gwas- k anaeth, a'r addewidion; eiddo y rhai yw y tadau, ac o'r rhai"— dyma y peth