Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(£}k|jjratoîi Cyfres Newydd.] IONAWR, 1865. [Rhif. XXXVII. CrtóJHŴíM k êoljéwtfynu. GWIR GREFYDD YN BETH MAWR. " Ai bychan genyt ti ddyddanwch Duw." — Job xv. 11. GAN Y PARCH. E. THOMAS, HEBRON. Yr oedd Job y dyn cyfoethocaf yn yr holl wlad, a'r dyn duwiolaf yn yr holl wlad hefyd. Nid yn fynych mae yn bod fod y dynion mwyaf enwog mewn cyfoeth, yn fwyaf hynod mewn crefydd. Pô bae yr Arglwydd yn nodi allan y dynion mwyaf eu crefydd yn ein hoes a'n gwlad ni, hwyrach, mai nid yn mhlith y cyfoethogion, nac ychwaith yn mhlith y tlodion, y ceid gafael ynddynt —efallai mai yn mysg y dosbarth canol y ceid hwynt. Y sefyllfa ganolog, yw y sefyllfa f wy. af fanteisiol ar gyfer byw yn grefydd- ol. Mae yn debygol mai hyn oedd credo Agur, pan y gweddiai am gael ei gadw rhag y naill, er mwyn gochel ei themtasiynau, a'i gadw rhag y llall i'r dyben i ochel ei phrofedigaethau. " Na chyfoeth, rhag i mi ymlenwi a'th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd ?" " Na thlodi, rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymeryd enw fy Nuw yn ofer." Ond am Job, yr oedd y cyfoethocaf mewn ystyr ddwbl; mewn aur ac mewn gras, mewn cysylltiad â'i gorff, ac mewn cysylltiad â'i enaid; mewn cy- sylltiad â dynion, ac mewn cysylltiad à Duw ; yn ei berthynas ag amser, ac yn ei berthynaa a thragywyddoldeb. Er fod Job yn ddyn o'rfath uod- wedd, eto nid oedd uwchlaw cyhuddiad- au y ddraig ; darfu i " gyhuddwr y brodyr" ei gyhuddo wrth Dduw o gau- ddybenion yn ei wasanaeth. Yr °edd Satan yn taeru wrth Dduw fod holl grefydd Job yn ei gyfoeth, ac os collai ei gyfoeth, y collai ei grefydd yn yr un diwrnod: " Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw ? Oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dj', ac yn nghylch yr hyn oll sydd eiddo oddiam- gylch ? ti a fendithiaist waith ei ddwy- law ef, a'i dda a gynyddodd ar y ddaear." Nid oes dim diolch i Job dy wasan- aethu, pan mae ei holl lestri yn cael eu llanw genyt hyd yr ymylau ag hufen dy drugareddau. Nid ydyw ef ond un o res faith fydd yn dy wasanaethu, ac yn llafurio gyda chrefydd er mwyn y " bwyd a dderfydd;" y rhai fydd yn ystyried crefydd yn ei phroffes a'i swyddi yn fantais dymorol, ac os na fydd felly iddynt, hwy a'i gadawant; ac un o'r fath yma yw Job, (penod i. 11). " O nage," medd yr Arglwydd, « yp Wyf yn adwaen Job o fewn yn welí nag yr wyt ti yn ei adwaen oddiallan. Ac i'r dyben i ti gael dy siomi, a'm pobl trwy yr oesoedd, hyd ddiwedd y byd, i gael eu cysuro, ti a gai genad i fyned a'i gyfoeth, oblegid mi a wn na elli di fyne4 a'i grefydd oddiarno. Wele yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di." Tybiwn na fu Satan yn ymdroi dim, ond at ei waith ag ef gydag egni a phleser; ac fe'i gwnaeth ef yn hynod o lwyr, nes dyosg Job o'r cwbl a feddai. Ond er iddo ei ddyosg o'i gyfoeth, fe fethodd a'i ddyosg o'i grefydd, yr oedd hono yn dysgleirio yn danbeidiach : " Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Wedi i Satan golli y dydd yn nghylch