Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Äjlelgrahm. Cyfrbs Newydd.] MEDT, 1864. [Ehif. XXXIII. DUW YN NERTH AC YN NODDFA. * Minau a ganaf am dy nerth; ie, Uafar-ganaf am dy drugaredd yn foreu; canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa ya y dydd y bu cyfyngder arnaf,"—Salm LIX. 10. Gan y diweddar Barch. E. Morgan, Caerdydd. Mae pob pechod yn ei natur a'i weith- rediadau yn wrthwyneb i santeidd- rwydd,oblegid ei fod yn groes i Dduw, yr hwn medd y gair, sydd "gyfiawn yn ei holl ffyrdd, a santaidd yn ei holl weithredoedd." " Duw cariad yw," a'r hyn sydd wrthwyneb i gariad ydyw cenfigen, yr hwn bechod a orchyrnynir i ni gan yr apostol i'w roddi heibio. Rhyw glefyd poethlyd ydyw y pechod hwn, sydd yn difa nerth ei berchenog wrth wgu, ymgurio, ac ymlidio o her- wydd hawddfyd a llwyddiant ei gyd- greadur. Mae yn bechod sydd wedi ys- beiliollawer o'uhiechyd a'u meddianau; yr hwn, medd Solomon, " a bydra yr esgyrn." Mae wedi annhrefnu teulu- oedd, terfysgu gwledydd, ac ymranu cynulleidfaoedd o gristionogion. Un o'r dynion en wocaf mewn cenfigen peddSaulmabCis. Yr oedd pob llwydd- iant a ddeuai i ran Dafydd, yn neillduol ei fuddugoliaethiau yn y rhyfeloedd, megys ergydion angeuol i feddwl Saul. Aeth Daf ydd allan un diwrnod i ymladd yn erbyn y Philistiaid, ac fe'i taraw- odd a lladdfa fawr. Ar ei ddychweliad i dy Saul fe ymaflodd yn ei delyn, ac o ian dim a wyddom ni, yr oedd yn ei chwareu gystal bryd hyny ag erioed; °nd yr oedd graddau mwy o'r hen gyrchias gythreulig wedi syrthio ar oaul nag arferol, ac fe darawodd ei waywffon mewn bwriad iddi gyrhaedd calon Dafydd ; ond hi a lynodd yn y pared, a Dafydd a ffodd, ac a ddiangodd y nos hono. Ond er ffoi o Dafydd oddiwrth Saul, ni ffodd Saul ddim oddiwrth ei bechod. Yr oedd ei gen- figen mor fyw a chynt. Y man y ffodd Dafydd oedd i Ramah at Samuel. Bernir mai yn ei ystafell cyn ffoi, neu ynte yn y ddirgelfa yn y lle y darfu iddo ffoi, yr ysgrifenodd y Salm bon ; ac eto, er yr holl fraw, yr arswyd, a'r dychryn oedd wedi dal Dafydd, yr oedd ei feddwl yn dawel, a'i ffydd yn gref yn ei Dduw, y byddai iddo ei waredu. Mae y geiriau santaidd ymayn ddan- ,mlwg i ni fod holl barch a chydnabyddiaeth dyn i Dduw yn cael eu hachlysuro o rasol ymddygiadau Duw tuag at ddyn, yr hyn sydd yn ein cyfarwyddo i sylwi ar ddau beth: yu laf, yr hyn oedd Duw i Dafydd; yn 2il, bod yr hyn oedd Duw i Dafydd yn destunau mawl y Salmydd. I. Yr hyn oedd Duw i Dafydd— nerth, trugaredd, amddiffynfa, a noddfa.—1. Fe'i profodd yn nerth iddo, a hyny oedd yr achoseifodyn aml yn galw yr Argl- wydd yn Waredẃr iddo; ac felly y tro yma yn nerth iddo i ffoi, ac yn nerth iddo wedi ffoi. Wrth ymaflyd yn y pwnc hwn, ofer yw meddwl myned trwyddo, oblegid, a meddu gwybodaeth Gabriel, byddai mil o flynyddoedd yn rhy fyr i nysbysu rhagorol fawredd ei KK