Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cglclgrahm. Cyfres Newydd.] AWST, 1864. [Rhif. xxxn. fötmfyaòm a ënjttfórójmii. Y GWEDDNEWIDIAD A'R DIWYGIAD DIWEDDAR. Gan y Paeoh. John Davies, Castell Henry. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Y peth nesaf sydd yn dyfod dan ein sylw oddiwrth hanes y Gweddnewidiad ydyw, teimladau a phrofiadau y dys- gyblion, wedi i'r weledigaeth ogoneddus fyned heibio. Cawsant allan yn bur fuan mai rhyw nefoedd fychan ar y ddaear oedd y Ue y buont ynddo wedi y cwbl, ac nid nefoedd sefydlog y byd tragywyddol. Yn lle meddwl am Dduw, a syllu ar ogoniant Iesu Grist, yn swn ymddyddan, a than ymgymysgu â seintiau y nef, y maent yn gorfod ceisio addoli goreu medrant dan ymgymysgu â gelynion uffernol; ac yn lle edrych ar eu Hathraw yn ei ddillad gwynion, yn ymddysgleirio fel yn nghanol gogon- iant y nefoedd, y maent yn gorfod edrycn arno yn dyfod i lawr o ben mynydd y gweddnewidiad i gael ei demtio a'i ddirmygu gan ei elynion. A chyn hir, y maent yn gorfod syllu arno yn cael ei wertbu gan Judas fradwr; yu cael ei erlid o lys i lys ar hyd heolydd Jerusalem fel drwg- weithredwr ; yn chwysu ac yn gwaedu yn Gethsemane; ac yn marw mewn gwarth ar y groes ar ben Calfaria; a hwythau mewn profedigaethau mor fawrion erbyn hyn, nes y mae un o'r ^ysgyblion anwyl—y mwyaf selog o'r tri—yn tyngu, ac yn rhegi na adwaen- °dd efe 'mo Iesu Grist erioed. Yr oedd yr hîn wedi newid yn fawr arnynt erbyn hyn. Felly y gellir dyweyd eto, mewn cysylltiad à Uawer o grefyddwyr ieuainc y dyddiau presenol, yn enwedig y cyfryw ag a deimlasant bethau cryfion yn nechreuad eu gyrfa grefyddol. Y maent wedi gweled erbyn hyn mai rhyw le, a dyweyd y goreu am dano, rhwng nef oedd a daear oedd pen mynydd eu gweddnewidiad wedi y cwbl, ac nid nefoedd lonydd y byd a ddaw. Yn lle chwareu eu telynau, fel ar riniog Caer- salem, yn gymysgedig â chaniadau telynorion gogoniant, ceisiant, erbyn heddyw, ganu tipyn goreu medrant yn gymysgedig â swn cableddau gelynion uffernol. Ac yn lle edrych ar eu Ceid- wad yn ei wisgoedd gwyniou, a'i wyneb yn ymddysgleirio fel yr haul, y maent yn gorfod edrych arno, yn enwedig yn ei achos mewn llawer cymydogaeth, yn cael ei werthu gan lawer Judas fradwr, ei wadu gan ambell Bedr ansefydlog, ei arwain o lys i lys fel drwgweithredwr, a'i groeshoelio yr ail waith gan lawer un; a hwythau mewn tywydd mor dymestlog erbyn hyn, nes y mae yn brofedigaeth i rai fu yn canu ac yn gorfoleddu unwaith i wadu na welsant ddim hynpd yn Iesu Grist na'i grefydd erioed. Ó ! fel mae yr hîn grefyddol wedi cyfnewid, yn enwedig mewn cys- ylltiad â'r dosparth dan sylw. Wel, at hyn yna yn benaf, y ceisiwn gyrchu yn yr ysgrif hon—y perygl y