Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgldjgrẃnt Cyfres Newydd.] GOEPHENAF, 1864. [Rhif. XXXI. Y GWEDDNEWIDIAD A'R DIWYGIAD DIWEDDAR. Gan y Parch. John Dayies, Castell Henby (gynt Llandysul). Ymae yn ddiau fod hanes y gwedd- newidiad, fel ei gosodir allan gan yr efengylwyr, yn un o'r pethau rhyfeddaf a niwyaf dyddorol a adroddant gyda golwg ar daith ryfedd y Duw-ddyn yma ar y ddaear. Mewn perthynas i «idyllusrwydd yr hanes, fel y gosodir ef allan gan yr ysgrifenwyr sanctaidd hyn, digon ydyw dyweyd, fod ei holl amgylchiadau o ran aniser, lle, <fcc, yn ei wneuthur yn eglur a diamheuol i bob meddwl gonest ac ymchwilgar. Y mae tri o'r efengylwyr yn adrodd yr hanes rhyfedd, a hyny, gydag ychydig o eithriadau, yn yr un geiriau. Pan y dywed Mathew a Marc mai ar ol chwe' diwrnod i'r ymddyddan fu rhyngddo a'i ddysgyblion, gyda golwg ar ei farw- olaeth a gogoniant ei deyrnas, y cyinerodd y gweddnewidiad le, dywed Lue fod y dyddiau yn nghylch wyth mewn rhifedi. Y gwahaniaeth, mae yn debyg ydyw, fod Luc yn cymeryd i mewn i'w gyfrif y diwrnod y cymer- odd yr ymddyddan crybwylledig le, a'r diwrnod, neu yr amser, y cymerodd y gweddnewidiad ìe; pan nad ydyw Mathew a Marc ond yn son am yr amser rhwng y ddau amgylchiad. Cymerodd y gweddnewidiad le ar un 0 fyuyddoedd Palestina. Ni ddywedir ganun o'r tri efengyiwr pa fynydd oedd. Y cwbl a ddywedir ganddynt am y mynydd yw, ei fod yn " fynydd uchel o'r neilldu." Barna y rhan amlaf o'r hen esbonwyr, mai mynydd Tabor oedd yr hwn a gafodd ei anrhydeddu â bod yn weledfa gweddnewidiad ei Grëwr mawr; ond llawer o'r esbonwyr di- weddar a geisiant ysbeilio yr hen fyn- ydd enwog Tabor o'r gogoniant hwn, gan daeru nad ydyw yn perthyn mewn modd cyfreithlon iddo ; ond hyd yma, modd bynag, heb gytuno pa un o fyn- yddoedd y tir santaidd sydd i gael ei goroni à'r gogoniant hwn ; ac hyd nes y cytuna y dosbarth dysgedig yma â'u gilydd, yr ydym ni ynddigon boddlawn i hen fynydd Tabor i gymeryd yr an- rhydedd iddo ei hun. Pedr, Iago, ac Ioan; yn unig a gawsant yr anrhydedd o fod yn bresenol ar adeg y gwedd- newidiad. 0 herwydd rheswm, neu resymau, teilwng o hono Ef ei hun, yr oedd mwy o olwg gan Iesu Grist ar rai o'i ddysgyblion na'r lleill. A'i dri dysgybl aiiwyl Ef oeddynt y rhai hyn— Pedr, Iago, ac Ioan. Y tri hyn fuasai Efe yn eu cymeryd ganddo bob amser, pan fuasai rhywbeth hynod iawn i gymeryd lle mewn cysylltiad âg Ef ei hun. Pedr, Iago, ac Ioan oeddent Ei dystion o'i awdurdod ar angau. Y tro cyntaf y dangosodd hyny pan y cyfod- odd ferch Jairus o feirw. Y tri dysgybl anwyl yn unig hefyd gawsant foa yn BB