Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgldjgrẃn. Cyfrbs Newydd.] MAI, 1864. [Emr. XXIX. CTOtJttŵra u êüỳéwäljm. TREM AR AGWEDD CREFYDD YN MYSG CYMRY VICTORIA. GAN T PAECH. W. M. EVANS. Happy Valley.—Mae yn y lle hwn achos crefyddol er ys tro. Capel coed bychan, wedi ei adeiladu yn 1862. Nid yw yn perthyn i enwad crefyddol, ond yn gapel cyffredinol, neu yn gapeí y Welsh Protestants, fel y dywedir. Costiodd tua £80, ac y mae yn hollol ddiddyled. Rhif yr eglwys yw 17; cymysg enwadau; canolrif y gynull- eidfa yw tua 70 neu 80; canolrif yr Ysgol Sabbothol o 45 i 50. Mae yma Gymdeithas Ddirwestol, ond nid ydyw hyd yn hyn ond bychan, ac nid oes ond ychydig o egni wedi ei roddi hyd yn yn hyn yn ei phlaid. Gwneir ymdrech i geisio dyrchafu yr Ysgol Sabbothol; ac y mae gradd o lwyddiant yn canlyn. Er pan ydwyf wedi ymsefydlu yn y lle yr wyf wedi pregethu unwaith y Sab- both yma yn gyson, ond pan y dyg- wyddaf gael fy ngalw yn achlysurol i lefydd ereill. Mae llawer o'n cenedl yn y lle hwn yn esgeuluswyr hollol o foddion gras, ac nid jdynt un amser yn mynychu un lle o addoliad. Mae cariad a thangnefedd yn ffynu yn yr eglwys fechan, ac y mae yr ardalwyr yn gyffredin yn dangos sirioldeb mawr at yr achos crefyddol, a phob amser yn haelionus yn eu cyfraniadau. Snaee Valley. — Capel coed per- thynol i'r Annibynwyr. Yr eglwys i raddau yn gymysgedig, ac yn rhifo tuag ugain. Canolrif y gynnulleidfa o 80 i 90, ac ar adegau yn 100. Canolrif yr Ysgol Sabbothol 65. Mae yma hefyd rai yn esgeuluso moddion gras, ac yn byw mewn anghof o'u cyfrifoldeb. Yr wyf wedi ymweled â'r lle hwn amryw droion yn ddiweddar, ac yn cael lle i gredu fod yr achos da yn myned ar ei gynydd. Nidoes yno yr un pregethwr yn arosol, ond y maent yn mwynhau gweinidogaeth weddol o gyson, trwy gael rhai o lefydd ereill. Moneey Gully.—Capel coed bychan W. P., wedi costio £70. Ychydig o Gymry sydd yn y lle yn awr, ac y maent o un i un yn symud oddiyno. Deuddeg sydd yno yn proffesu. Dichon y gellid cael yno o 20 i 25 o gynulleidfa. Cynelir ysgol a chwrdd gweddi yno bob Sabboth. Nid ydynt yn cael pre- gethu yno ond yn dra anfynych. Mae y ddau le blaenaf a nodais, o fewn tuag 20 milltir i Ballarat; a'r olaf o fewn tua 15 milltir. Ballarat.—^Yn ol y cyfrifiad di- weddaf a wnaed ar y boblogaeth, y mae tua phedwar cant ar ddeg o Gymry yn Ballarat. Ceir yno un capel o bridd- feini hardd, W. P. Mae wedi costio yn agos i un cant ar ddeg o bunau, ac nid oes ond tua chant a saith ar ugain o bunau o ddyled yn aros arno. Mae yr eglwys yn gymysgedig o wahanol en- wadau, ac yn rhifo 52. Canolrif yr eglwys a'r gynulleidfa, tua 80 neu 90; ond fe debygir y bydd yno ar rai ach- lysuron gynifer a 150 yn gynulledig.