Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<íîl%rahm. Cyfres Newydd.] EBEILL, 1864. [Ehif. XXVIII. &XKÚ\jfiùm a ê0^JjÌEXíIjait. DYLANWAD CYMERIAD SANTAIDD. " Chwi yw halen y ddaear." Math. v. 13. Gan y Parch. Thomas Hughes, Gelli. Y desgrifiad a rydd y Beibl o'r byd yw ei fod yn llygredig. " A'r ddaear a lygrasid ger bron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd. A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y cldaear." " Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd ar feib- ion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio à Duw; ciliodd pawb ; cyd-ytnddifwynasant: nid oes a wnel ddaioni, nac oes un." Y mae dyn, gan hyny, mewn sefyllfa hynod o druenus. Ond y mae yr un llyfr dwyfol yn gosod allan wirionedd arall; sef fod yr Ar- glwydd wedi llunio ffordd i adnewyddu y byd, i'w buro, i'w wneyd eto y peth y bwriadodd iddo fod. Y mae yr eg- wyddorion drwg sydd yn y galon i gael eu dadwreiddio, ac y mae yr enaid i gael ei adnewyddu o ddydd i ddydd ar ddelw Duw. Fe wneir ewyllys yr Ar- glwydd megya yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. "Adferir dyn eto i'w burdeb cyntefig. Gwneir ef yn wrth- ddrych cymwys i gymdeithasu à Duw. Gwelir ef ryw ddiwrnod heb arno na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyf- ryw, yn santaidd ac yn ddifeius. Y mae yr Arglwydd yn dwyn oddi- amgylch y cyfnewidiad mawr yma trwy amrywiol ffyrdd. Y prif foddion yw gweinidogaeth yr efengyl. "O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddwn ryw fiaen- ffrwyth o'i greaduriaid ef." " Wedi eich aileni nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd." Y mae y gair yn cael ei fendithio gan Ysbryd Duw, i fywhau, argyhoeddi, a santeiddio yr enaid. Y mae pregethiad syml o Grist croeshoeliedig wedi bod, ac yn bod yn foddion iachawdwriàeth i filoedd o blant dynion. Pan y mae y gwirionedd yn cael ei gyniwyso, y mae y pechadur yn cael ei ddwyn i waeddi, " Betb a wnaf i fod yn gadwedig." Y mae trefn Duw i'w adferyd yn dyfod yn werthfawr yn ei olwg. Dymuniad penaf ei galon yw bod yn santaidd. " Golch fi yn llwyr-ddwys oddiwrth fy anwir- edd,a glanha fi oddiwrth fymhechod." " Crea galon làn ynof, 0 Dduw; ac ad- newydda ysbryd uniawn o'm mewn." Defnyddir goruchwyliaethau rhag- luniaethol Duw i effeithio yr amcan gogoneddus yma. Rhoddir bywyd, iechyd, a llwyddiant i ni, fel y byddo i ddoniau Duw ein harwain i edifeirwch. Ymwelir â phreswylwyr y ddaiar â barnedigaethau fel y dysgant gyfiawn- der. Cystuddir ni gyda'r amcan i'n rhybyddio, ac i'n hysgaru oddiwrth ein