Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CjIdjgrẃiL Cyfres Newydd.] MAWETH, 1864. [Ehif. XXVII. Crarífycrìrctt k (êatyhmtfym. DAIONI CYFYNGDERAÜ FR EGLWYS A'R BYD. GrAN John Lewis, (Homo Ddu). " Canys y mae yn gyfyng arnaf o'r ddeutu," &c.—Phil. i. 23. Fe allai, o holl sefyllfaoedd cyfyng bywyd, mai y mwyaf annymunol i'r teimlad, ydyw y sefyllfa hono pan fydd y meddwl yn cael ei lywodraethu gan ddau ddymuniad mawr gwrtbgyferbyn- iol. Dichon y byddant yn gyfartal yn eu hawliau a'u dymunoldeb, a rhwng y ddau byddis yn metbu, er gwneyd ym- drech, a dyfod i benderfyniad hollol a thrwyadl i ba un o honynt y byddai yn oreu rhoi ffordd. Mae yn wir fod manteision pwysig, a pheth anfanteis- ion, yn gysylltiedig à phob un o hon- ynt; oblegid dyna yw un o brif nod- weddion gweithredoedd Duw. A bydd credu y gwirionedd hwn yn gryn help, yn gryn gymwysder i ni deimlo yn foddlawn yn holl sefyllfaoedd bywyd ; oblegid yn mha sef yllfa bynag yr ydym, os mai natur, os mai rhagluniaeth sydd wedi ein gosod ynddi, (ac nid ni ein hunain,) gallwn Bbenderfynu fod yna fantais bwysig yn gystal ag anfantais yn'gysylltiedig â hi. Y mae rhyw bersonau drachefn wedi ymddangos yn y byd, ag sydd yn cael lle mawr yn hanes crefydd ac eglwys Crist, ar gyfrif yr "ystyriaeth fod Duw wedi cyrhaeddyd dybenion uwch a mwy na dybenion pereonol trwyddynt—dyn- ion ag a fu mewn rhyw ystyr yn byw ar yr un egwyddor a Christ, byw er mwyn y byd,—er mwyn y ddynoliaeth. Mae yn wir fod Duw yn cyrhaedd dybenion personol—eu gwella hwy eu hunain; ond eto, yr oedd yn cyrhaedd dybenion cyffredinol trwy y dybenion personol hyny. I'r dosbarth hwn y mae yr apostol Paul a Dafydd, mewn modd ar- benig, yn perthyn. Y mae cyfyngderau y ddau hyn, a'r dygwyddiadau mawrion a phwysig a gymerodd le yn eu bywyd, nid yn unig wedi bod o les iddynt hwy yn eu personau eu hunain, ond y mae yr eglwys o hyny hyd yn awr, a hi a fydd felly hyd dcüwedd amser, yn llawer iawn gwell o honynt. Y mae Cristion- ogion hyd yn oed yn llawer iawn gwell fod y fath ddynion a Phaul, Dafydd, a'r cyffelyb, wedi bod o gwbl yn dal cysylltiad â chrefydd. Yr oedd cyfyng- derau Dafydd yn tynu y bardd allan— byddai yn canu yn well: ac y mae miloedd wedi cael gwledd i'w hysbryd wrth ddarllen a dal cymundeb â'i farddoniaeth. Byddai cyfyngderau yr apostol, ar y llaw arall, yn tynu ei enaid mawr i gyfeiriad arall, (oblegid mae yn ymddangos nad oedd llawer o'r bardd ynddo ef,) ysgrifenu a phre- gethu trefn y cadw gyda mwy o nerth a sel; agweithioallan mewn bywyd brif linellau y cymeriad Cristionogol. Fe allai mai dylanwad rhyw am-