Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgldjjjmímt. Cyfbes Nbwydd.] CHWEFROE, 1864. [Ehif. XXVI. HEDDWCH EGLWYSIG YN SICRHAU CYMDEITHAS A DÜW Y CARIAD A'R HEDDWCH. " Bellach, frodyr, byddwch wych, byddwch berffaith, dyddaner chwi, eyniwch yr un peth, byddwch heddycholj a Duw y^cariad a'r heddwcha fyddo gyda chwi," 2 Cor. xiii. 11. Gan y Parch. J. Davies, Brynmawr. Mae yr adnod hon yn rhan o ddiwedd- glo yr epistol; a chynwysa hefyd ddy- niuniad daionus yr apostol i'r Corinth- iaid. Mae llawer yn dymuno yn dda i ereill; ond nid ydynt yn gwneuthur y peth Úeiaf tuag at eu llesàu. Nid oes yr un weithred yn cael ei chynyrchu ganddynt er profi cywirdeb y dymuniad hwnw. Dymuniad, yn gystal a ffydd, heb weithredoedd, marw ydyw. Mae hyn yn gyfystyr a dyweyd fod yn an- mhosibl i ddymuniad hanfodi ar wahan oddiwrth weithredoedd. Os ydych am i ryw un gredu eich bod yn dyniuno ei les, ceisiwch ddangos hyny heblaw mewn geiriau, onite bydd yn auhawdd eich credu. Pwy all goelio y dyn yna, ei fod yn dymuno lles ei gymydog, pan na ddarfu iddo erioed gymaint a'i gy- meU i ddyfod i'r Ysgol Sabbothol ì dim gair erioed wrtho am y perygl o fyw yn annuwiol, a marw yn estron i egwyddorion a bywyd crefydd. Lle y mae gwir ddymuniad am lesâu ereill, y mae yno ymdrech i gyrhaedd yr amcan; ac yn ol graddau y dymuniad y bydd yr ymdrech. Ein hymroddiad i wneyd daioni yw y mesurydd ar ba un y eanfyddir graddfa y dymuniad. Cyr- haeddodd Paid raddfa moír uchel ar y mesurydd hwn, fel nad oedd yn ol i'r apostolion penaf. Gallasai ddweyd wrth y Corinthiaid, iddo ef fod yn eu hachos hwy ac ereill, "Mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodau dros f esur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych," 2 Cor. xi. 23—27. Yr hyn a'i cymellodd i wyn- ebu y peryglon hyn oedd, y dymuniad cryf oedd ynddo i wneyd daioni i ereill. Felly, chwi welwch fod gan Paul dyst- ion ar dystion i'w dwyn gerbron y Corinthiaid, er profi cywirdeb ei ddy- muniad, a'i fod yn ewyllysiwr cìa iddynt. Ond ar ol fy holl lafur, a'r peryglon y bum ynddynt yn eich achos, nid oes genyf yn awr ond dymuno eich Uwydd. " Bellach, frodyr, byddwch wych" neu, fel y gellir cyfieithu y gair, byddwch laiven. Mae y gair a gyfieithir, bydd- wch wych, yn y fan hon, yn cael ei gyfieithu henffych well mewnrhai man- au. Hwn oedd y gair a arferodd Judas pan y bradychodd yr Arglwydd Iesu. Felly, arferir y gair neu'r cyfarchiad pryd y bydd dau yn cyfarfod. Ond yn y fan hon arfera Paul ef yn ei gyfarchiad ymadawol i'r Corinthiaid; fel y bydd- wn ninau, wrth ymadael â chyfeillion a pherthynasau hofF, yn ymadael gyda dyweyd p* ymadrodd byddwch wych;