Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cjl%rẃiL Cyfees Newydd.] IONAWR, 1864. [Rhif. XXV. Cra^íljnbau k éüỳémtym. Y FLWYDDYN NEWYDD. Mae'b flwyddyn newydd yn cynyrchu gwahanol deimladau yn y f y nwes ddynol, yn ol oedran ac amgylchiadau. Bydd rhai yn dyheu am gyfnewidiadau, ac ereill yn eu hofni a'u harswydo yn ddirf awr. Y dynion hyny ag sydd wedi addfedu mewn oedran, ac wedi gweled llawer o gyfnewidiadau y byd, y maent hwy, ddigon tebyg, yn ofni rhag y gall fod rhyw aflwydd yn llechu y tucefn i'r cyfnewidiad. Y maent hwy wedi gweled hyny lawer gwaith o'r blaen. Yn ngwyneb dysgwyl ar bethau gwych y tucefn i ryw gyfnewidiad, trowyd yr holl ddysgwyliadau hyn yn siomedig- aethau truenus. O herwydd hyn, gwelir yr hen a'r profiadol yn myned i ofni y cyfnewidiadau yn fwy na'u dymuno. Yn lle bod teimlad y meddwl yn tynu yn y blaen yn awchus atynt, y mae yn edrych yn yswilgar, a phe medrai, yn tynu yn ol, gan ofni y cyfrifoldeb a'r canlyniadau. Bydd profiad, o angenrheidrwydd, yn gwneuthur dynion yn fwy gochelgar, ac yn llai anturiaethus. Gŵyr yr hen nad oes rhyw gysuron mawrion i fod yn y byd idäynt hwy mwyach; mewn gwirionedd nid mawrion mo honynt erioed; canys yr oedd y dysgwyliad bob amser yn annhraethol fwy na'r mwynhad. Y maent yn gwybod fod i'r tucefn i bob cyfnewidiad ofalon, beich- iau trymion, a pheryglon dirif; am hyny teimlant yn ofnus, rhodiant yn araf a gwyliadwrus, gan dynu yn ol yn wyleiddgar, pob cysgod yn cilio, a phethau y tucefn yn dyfod i'r golwg. Ofni drygau y cyfnewidiad y bydd y meddwl profiadol, a dysgwyl daioni y cyfnewidiad y mae yr ieuenctyd go- beithiol. Dyma y ddwy elfen ag sydd yn cadw cymdeithas yn gymedrol, ac yn ei dwyn yn y blaen yn rheolaidd, heb golli ei hanadl mewn gwylltineb ar y naill law, ac heb lesgâu a diffrwytho ar y llaw arall. Bydd yr hen yn arafu symud- iadau gwylltion yr ieuainc, a'r ieuainc yn cyflymu rhyw gymaint ar arafwch yr hen, fel y mae rhyw ganol daionus yn cael ei weithio allan rhwng y ddau. Y mae yn dda iawn nad yw y byd na'r eglwys yn hen i gyd, nac yn ieuainc ychwaith, onite byddai eu symudiadau yn rhy rywbeth o hyd; ac felly yn byw er dinystr, ac nid er adeiladaeth. Bydd anwybodaeth, a diffyg profiad, yn gyff- redin, yn rhy anturiaethus; tra y mae profiad a gwybodaeth wedi dysgu gwyl- iadwriaeth i'r fath raddau, nes ofni medi, er y gwelir y maesydd yn " wyn- ion i'r cynhauaf." Tebyg iawn y bydd yn rhaid i bawb "ddysgu ufuäd-dod trwy y pethau a ddyoddefir." Fel y dywed yr hen ddiareb, "Y mae yn anhawdd dodi hen ben ar ysgwyddau ieuainc." Rhaid i'r anturiaethus gael