Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cífebs Newydd.] RHAGFYR, 1863. [Rhif. XXIV. BYWHAD AR WAITH YR ARGLWYDD. 'O Arglwydd, bywha dy waith yn nghanol y blynyddoedd."—Hab. ìii. 2. GAJST Y PABCH. JOSEPH JONES, LLANBEDB. GweDdî yw y testun; ond yehydig hys- bysrwydd diamheuol a feddwn am ei hawdwr. Gellid meddwl oddiwrth gyn- wysiad ei brophwydoliaeth ei fod yn prophwydo ryw bryd cyn y caethgludiad i Babilon. Tybia rhai ei fod yn byw tua diwedd teyrnasiad Josiah, a'i fod am ryw gymaint yn cydoesi â Jeremiah. Beth bynag am hyny, pe na bai genym ond y testun i bwyso arno, y mae dau beth yn hawdd eu canfod yn nrych y weddi hon. Un peth ydyw, fod crefydd mewn an- sawdd isel—gwaith yr Arglwydd wedi syrthio i farweidd-dra trwm. Ymddengys hyny ar unwaith oddiwrth y geiriau— "0 Àrglwydd, bywha dy waith yn nghanol y blynyddoedd;" neu, fel y mae ar ymyl y ddalen yn yr hen Fiblau, "Cadw dy waith yn fyw." Yn ol yr arwyddion presenol yr oedd yn debyg o farw; a marw a fyddai yn sicr o wneyd oddieithr i'r Arglwydd ddyfod allan o'i blaid. "0 Ar- glwydd, cadw dy waith yn fyw." Peth arall a welir yn nrych y geiriau ydyw y teimlad dwys oedd yn y prophwyd gyda golwg ar waith yr Arglwydd; y dyddor- deb a gymerai ynddo, yn nghyda'i ddy- muniad gwresog o'i blaid. Pa nifer cy- ffelyb iddo yn hyn oedd i'w cael yn ngwlad Israel y pryd hwn, nid ydym yn gwybod. Ond yn gyffredin, ychydig mewn cymhar- ìaeth a geir yn têimlo ac yn cwyno pan fyddo gwaith yr Arglwydd mewn cyflwr marwaidd. Osbyddhifellyyndymhorol, amgylchiadau y wlad yn isel, masnach yn farwaidd, gweithiau wedi sefyll, &c, ceir lluoedd yn cwyno o'r herwydd. Hyn fydd testun yr ymddyddan rhwng dynion. Bydd pawb bron yn achwyn ar galedi yr amseroedd. Ac os bydd arwyddion am wellhad a bywiogrwýdd ar bethau, bydd CYPROL IX. llawenydd cyffredinol o'r herwydd. Y mae y cysylltiad agos sydd rhwng dynion a'r byd hwn yn ei amgylchiadau tymhorol y fath, felnas gallant lainatheimlo oddi- wrthynt. Ond os bydd gwaith Duw yn isel a marwaidd, ychydig mewn cymhar- iaeth fydd yn cwyno. Er hyny y mae rhyw rai i'w cael yn mhob oes sydd yn cymeryd interest mewn pethau heblaw y gweledig—y tymhorol a'r daearol—dynion ag y mae ansawdd crefydd a'r agwedd fyddo ar waith yr Arglwydd o bwys yn eu golwg; ac o fwy o bwys na dim arall. Ac un o'r dosbarth yma oedd y prophwyd hwn. Y mae yn debyg fod y wlad o ran ei hamgylchiadaut ymhorol yn isel y pryd hwn. Yr oedd y cynhauaf wedi methu —y march du yn tramwy trwyddi—newyn trwm yn y tir. Digon tebyg fod cwynfan mawr o'i herwydd. Ac yr oedd y wasgfa yn cael ei theimlo yn drymach pan ystyr- iom fod llawer o honynt heb ddim i ym- gysuro ynddo. Y mae y rhan luosocaf o blant dynion yn ymddibynu yn hollol am eu cysur o'r ddaear. Os bydd drws hon wedi cau yn eu herbyn, y mae eu cyflwr yn druenus. Os gwna pydewau natur sychu, ni feddant yr un arall. Wrth golli y creadur, y maent hwy yn colli eu cwbl. Ond am y prophwyd, beth bynag oedd y cyfyngder tymhorol, yr oedd gwir ffyn- onell ei gysur ef yn aros yr un. "Oa pallodd yr aber, a sychodd y mòrt'* "Eto," wedi y cwbl, "mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth." Ac yn wir, nid cyf- yngdra ei amgylchiadau oedd yn gwasgu fwyaf ar ei feddwl, ond iselder a marw- eidd-dra gwaith yr Arglwydd. Yr oedd hwn yn agosach at ei feddwl na dim, a