Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfbes Newtdd.] HYDREF, 1863. [Rhif. XXII. Y CYNGHOR A DRADDODWYD YN NGHYMDEITHASFA AWST, A gynaliwyd yn Llanilltyd-fawr. GAN Y PAECH. E. BOBEETS, LLANGEITHO. Yr wyf yn ymdeimlo yn ddwys â fy anallu i gyflawni y gwaith a ymddiried- wyd i mi; sef rhoddi cynghor i rai a obeithiwyf a alwyd gan yr Ysbryd Glân i fod yn genadau dros Dduw, ac i erfyn dros Grist ar bechaduriaid i ddyfod i gymod a heddwch â Duw yn nhrefn yr efengyl; ac mewn trefn i hyny, i fynegi iddynt holl gynghor Duw. Y geiriau at ba rai yr amcanwyf arwain eich sylw, sydd yn Efengyl Ioan xxi, sef y cwestiwn pwysig a ofynwyd gan Ben yr eglwys i Pedr, "A wyt ti yn fy ngharu i?" ac wedi cael atebiad penderfynol a boddlon- awl, y mae yn gorchymyn iddo f ugeilio ei ddefaid, a phorthi ei ẃyn. Y mae pwysigrwydd y swydd yn ym- ddangos yn ngwaith yr Arglwydd Iesu yn gofyn iddo dair gwaith, "A wyt ti yn fy ngharu i?" ac fe barodd i'r Arglwydd Iesu newid y gair pan yn gofyn iddo y drydedd waith, a rhoddi gair gwanach na'r gair a ddefnyddiwyd ganddo yn y ddau ofyniad o'r blaen, i Pedr dristâu, a rhoddi ar ddeall iddo mai nid yr hyn a elwir ac a ddeallir gan lawer yw yr hyn a ystyrir ganddo ef yn gariad. Y mae yn amlwg fod y cariad a ofynir fel elfen anhebgorol mewn gwir grefydd, ac yn arbenig fel cymhwysder mewn oenad dros Grist, yn mhell uwchlaw y teimlad naturiol o'r serch sydd yn y natur ddynol at unrhyw wrthddrych; 'ie, hyd yn oed y teimlad o anwyldeb a allai f od gan ddyn- ion at Iesu Grist. Gall fod teimlad felly gan lawer, ao eto yn amddifad o'r cariad a ofynir fel prif elfen duwioldeb. Y mae yn ddiau fod Pedr yn teimlo anwyldeb mawr at ei Athraw pan y dywedodd, "Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto iu byddaf fì; a phe gorfyddai i mi farw CYFEOL II, gyda thi, ni'th wadaf ddim;" ond trodd y teimlad cnawdol hwnw allan yn hynod o dwyllodrus yn awr y brofedigaeth, ao yn dra gwahanol i'r cariad a amlygwyd ganddo ef a'i frodyr wedi hyny pan yn ÿ peryglon mwyaf. Y mae yn angenrheidiol i chwi fod ya brofiadol o gariad o'r un natur a ehariad Duw ei hun, oblegyd y mae i fod yn gyfranogiad o'i gariad ef, yn wreichionen o'r mam angerddol sydd yn y natur ddwyfol. Gelwir ef yn fywyd Duw yn enaid dyn. Amlygiad o gariad Duw, yn wyneb Iesu Grist, sydd yn cenedlu yr elfen santaidd hon yn nghalon pech- adur; ac fe allai mai yn hyn y bydd y rhai a aned o Dduw yn dwyn mwyaf o gyffelybrwydd iddo; fellybyddeu Tad yn gweled yn ei blant fwyaf o'r hyn y mae yn ymhyfrydu fwyaf ynddo ei hun. Gelwir ef yn gariad yn yr Ysbryd, oblegyd ei fod yn un o ffrwythau yr Ysbryd, ac yn allu ysbrydol yn yr enaid i ymddyrchaf u uwchlaw yr anianol at yr ysbrydol. Duw ei hun yw ei ganolbwynt, a'r oll yn Nuw. Cafodd ei egluro yn berffaith yn mywyd a marwolaeth Iesu Grist. Y mae hyny i fod yn brawf amlwg; sef, fod pob un sydd yn caru Duw yn caru plant Duw, oblegyd o Dduw y ganéd hwynt; a phob un a'r sydd yn caru yr hwn a genedlodd, sydd hefyd yn caru yr hwn a genedlwyd o hono. " Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchymyn ef." Felly y cwestiwn pwysig sydd genyoh chwithau i'w ateb i Ben yr eglwys ydyw, A ydych yn ei garu ef ? Ni a obeithiwn y gellwch yn awr fel Pedr apelio at ei hollwybodaeth, adweyd, "Ti a wyddost, Arglwydd, fy mod yn dy