Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfbes Newydd.] MEDI, 1863. [Rhif. XXI. PROFFES GRISTIONOGOL, EI HAMCAN, EI RHAGORFREINTIAU, &o. "Glynwn yn ein proffes," Heb. iv. 14. (A draddod'wyd yn Nghymdeithasfa Llanilltyd Fawr.) GAN Y PABCH. JOHN JONBS, BLAENANEBCH. Mae yr anogaeth hon wedi ei sylf aenu ar offeiriadaeth Crist: "Gan fod wrth hyny i ni Arch-offeiriad," &c. Yr oedd llawer o offeiriaid da wedi bod dan y gyf- raith; ond ni chafodd yr un o honynt y cymeriad hwn, offeiriad mawr; ond am Grist, y mae Efe yn cael ei alw yn Arch- offeiriad mawr, ac y mae yn llanw y cymeriad; mae mawredd personol yn perthyn iddo—Iesu, Mab Duw; ac felly mae mawredd ar y peth a wnaeth; sef myned i'r nefoedd. Fel y cyfryw mae yn eistedd ar " ddeheulaw gorseddf ainc y Mawredd yn y nefoedd, yn weinidog y gysegrfa a'r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn." Y mae hyn yn anogaeth i ninau i lynu wrth yr efengyl a'i gosodiadau: "Glynwn yn ein Sylwn ar dri pheth; sef, 1. Proffes Gristionogol; 2. Eihamcan; 3. Eirhwym- edigaethau. I. Proffes Gristionogol. Dymaybroffes a olygir yma, sef proffes o'r efengyl, proffes o Grist; yr hyn sydd yn golygu gwisgo ei enw, derbyn ei athrawiaeth, a byw mewn ufudd-dod iddo. Y mae yn rhaid i'r broffes hon, tuag at fod yn wir- ioneddol, i godi oddiar adnabyddiaeth o hono, gweledeiogoniantef; oddiargariad ato, a hwnw yn rhagori yn y meddwl ar bob cariad arall; ffydd hefyd, ac ymddir- ied ynddo am ein gwaredu a'n cadw. Mae gan ffydd ei gweithredoedd. Lle mae ffydd yn achos, mae proff es yn eff aith; " canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth." Mae rhagrithwyr yn eglwys Crist yn y byd hwn, ac y mae y rhai hyn yn CYFBOL II. iawn i wir Gristionogion mewn llawer iawn o bethau, ond eu bod yn gwahan- iaethu yn y prif beth. Felly y gwelwn yn nameg y deg morwyn; er eu bod yn ddeg o f orwynion, yr oedd pump o honynt yn gall, a phump yn ffol. " Y rhai oedd ffol a gymerasant eu lampau, ac ni chy- merasant olew gyda hwynt. A'r rhai call a gymerasant olewyn eu llestri gyda'u lampau." Yr oedd gan y rhai ffol lamp- au fel y rhai call, ac olew yn eu lampau. Yr oedd eu lampau hwy yn llewyrchu am ychydig; ond y diffyg oedd, na chymer- asant olew gyda'u lampau; ond yr oedd y rhai call wedi cymeryd olew yn eu lles.tri gyda'u lampau, sef olew i adnew- yddu y lamp fel byddai yr angen. Yr oedd y rhai hyn wedi gofalu am ddigon i'r daith cyn cychwyn. Felly mae rhag- rithwyr; ymaeganddyntbobpethcrefydd mewn prôffes yn allanol. Meddyliwch am edifeirwch, cariad, ffydd, &c.; maent gan y rhagritìiiwr o ran proffes; ond y diffygyw, maent yn amddifad o'r graa, o'r bywyd ysbrydol, o grefydd yn anian; ac felly troi yn siomedigaetîi a wna hi os deil hyd angau. Dyna y man pellaf, Job xi. 20. Ond am y gwir Gristionogion, y mae ganddynt hwy olew yn eu llestri gyda'u lampau, sef olew i adnewyddu y lamp yn barhaus. Fe ofalodd rhai am ddigon cyn cychwyn i'r daith: maent yn meddu ar ras, ar y bywyd ysbrydol, mae crefydd yn anian; ac felly y cyfiawn a ddeü ei ffordd, a'r glân ei ddwylaw a chwanega gryfder. '' Y cyfiawn a obeithia pan fyddo marw." " A'r rhai oedd barod a aethant i mewn gydag ef i'r briodas: a chauwyd y drws." Felly nid pob un