Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Cyfees Newydd.] AWST, 1863. [Rhif. XX. Y GWLAW NATURIOL AC YSBRYDOL. 'Canys fel y disgyn y gwlaw a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i'r hauwr, a bara i'r bwytawr; felíy y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag," &c.—Esay lv. 10, 11. GAN Y DIWEDDAB BAECH. D. BOBEBTS, PONTFAEN. Y MAE llawer yn galw y prophwyd Esaiah yn brophwyd efangylaidd; a pha beth yw y rhan gyntaf o'r benod hon ond gwahoddiad eiangylaidd? "O denwch i'r dyfroedd, bob un y mae syched.arno, îe, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwyteweh; 'íe, deuwch, pryn- wch win a llaeth, heb arian ac heb werth." Yn Actau xiii. dì a gawn esboniad gan Paul a Barnabas ar y geiriau: ' Ac yr ydym ni yn efangylu i chwi yr addewid a wnaed i'r tadau. Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd." Mae y prophwyd yn chwanegu, " Rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn flaenor ac yn athraw i'r bobl- oedd." A phwy yw hwn ond y Gwr yn yr hwn y mae hoLL deuluoedd y ddaear i gael eu bendithio? Rhoddir i ni yn y geiriau yma brophwydoliaeth eglur am natur gorachwyliaeth yr efengyl: "Canys fel y disgyn y gwlaw a'r eira o'r nef- oedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear," &c. O'r nefoedd mae y gwlaw a'r eira yn disgyn, felly hefyd yr efengyl. Duw sydd yn apwyntio y graddan a'r lle mae y gwlaw i ddisgyn; yr un fath y gellirdyweyd am yr efengyl. Y cyntaf yn angenrheidiol er harddu a ffrwythloni wyneb y ddaear; yr un fath am effeithiau yr efengyl er lìwyddiant yr eglwys. Rhyfeddyw effeithiau y naill, a rhyfedd yw effeithiau y Uall. Gwirionedd y geiriau, a'r gwirionedd fydd dan ein sylw ni, yw hyn; Y cyffelyb- rwydd sydd rhwng y gwlaw yn y byd naturiol a gair Duw yn y byd rhesymoL I. Mae y ddau yn amlygiad o ben- arglwyddiaeth Duw. Mae dau beth yn nisgyniad y gwlaw sydd yn dangos hyn. CYFBO& IT. Yn 1. Amser ei ddisgyniad; ac yn 2. Y lle y mae yn disgyn. Nid damwain yw dyfrhad y ddaear; y mae holl weithrediadau natur yn ddaros- tyngedig i lywodraeth y Creawdwr an- feidrol. Mae yr elfenau dan ddeddf nad allwn mo'i thori. Efe sydd yn rhoddi gwlaw a thymhorau ffrwythlawn i ni; yn toi y nefoedd â chymylau, ac yn parotoi gwlaw i'r ddaear. Y mae pob cafod o wlaw yn ymddibynu ar ei ewyllya Ef. Efe a gododä y cwmwl; ac nis gall neb ei ollwng ond efe. "A oes neb yn mhlith oferedd y Cenedloedd a wna iddi wlawio?" Yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoddi y gwlaw cynar a'r diwedáar, efe a geidw i ni ddefodol wyth- nosau y cynhauaf. Mewn atebiad i weddi efe a ataliodd y gwlaw; gwnaeth y nefoedd yn haiarn, a'rddaearyn bres; ao mewn atebiad i weddi, efe a agorodd ffenestri y nefoedd; parodd i'r gwlaw ddisgyn i adnewyddu wyneb y ddaear. Mae yr amser y mae Duw yn danfon ei air i ryw ran o'r ddaear yn amlygu yr un peth. Rhoddodd ef i'r Iuddewon, a chadwodd ef yn eu plith am oesoedd; ar yr un pryd gadawodd y Cenedloedd i rodio mewn tywyllwch, i fyw mewn ffiaidd eilun-addoliaeth. "Mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel. Ni wnaeth efe felly ag un genedl, ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef." Mae y tymhor yr ymwelir â gwlad â gair y bywyd wedi ei benderfynu cyn dechreu amser. "Hysbys i Dduw ei weithredoedd oll erioed." Nid damwain yw bod rhyw ran o'r ddaear yn cael ei